Ysgol O M Edwards
Tudalen Facebook Ysgol O M Edwards page
📣PENCAMPWYR MABOLGAMPAU 2024 YW…
💚DYFRDWY💚
Llongyfarchiadau mawr i bawb!
Llongyfarchiadau enfawr hefyd i 💛Math ac 💚Ania ar ennill y tlysau am y nifer fwyaf o bwyntiau. Campus!💪
💚❤️💛 DIWRNOD MABOLGAMPAU 💛❤️💚
Wel wir, dyna beth oedd prynhawn llawn hwyl a sbri wrth i ni gynnal ein Diwrnod Mabolgampau!
Braf oedd gweld y plant i gyd yn ymdrechu’n galed ac yn cefnogi ei gilydd yn wych.
Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth arbennig!😃
🎥 Gwyliwch y fideo i gael blas ar yr holl hwyl a chyffro 🏃♂️
🏊♀️SESIWN SWIM SAFE🏊♂️
Mwynhaodd bl.5 a 6 brynhawn gwych ac addysgiadol iawn ar lan Llyn Tegid wrth iddynt gymryd rhan mewn sesiwn ’Swim Safe’ Byw’n Iach Gwynedd Healthy Lifestyles
Prif amcan y sesiwn oedd codi ymwybyddiaeth plant o beryglon nofio mewn dŵr rhydd a sut i gadw eu hunain yn ddiogel!😃
🎥 Roedd cwmni Tinopolis yno hefyd yn ffilmio’r cyfan ar gyfer Prynhawn Da S4C
Cofiwch wylio dydd Mercher!😎
🌟SÊR YR WYTHNOS🌟
Llond y llwyfan o blant sydd wedi ymdrechu a dangos cwrteisi a pharch i eraill!
Llongyfarchiadau i chi gyd!🤩
SWOP SIOP DILLAD YSGOL/ SWAP SHOP SCHOOL CLOTHES
Mae gennym lond bag mawr o ddillad Ysgol O M Edwards amrywiol o bob maint. Mi ryden ni'n cynnig y ddillad yma am ddim neu am gyfraniad o'ch dewis. Mi fydd y dillad ar gael hyd at 24.6.24. Dewch draw i’w casglu neu cysylltwch ar ysgol os oes diddordeb gennych.
We have a large bag full of various O M Edwards school clothes of all sizes. We are opening a "Swop Shop" offering these clothes for free or for a donation of your choice. The table will be in the hall until the 24.6.24. Pop in or contact the school if you are interested.
Cofiwch am ddiwrnod H.M.S yfory, 14.6.24.
Reminder, Training Day tomorrow, 14.6.24
🏃♀️MABOLGAMPAU A RASUS HWYLIOG🏃
Cafwyd prynhawn gwych yn Ysgol Bro Tryweryn heddiw wrth i ddisgyblion Derbyn, 1 a 2 Ysgol O.M.Edwards, Ffridd Y Llyn a Bro Tryweryn fwynhau rasus hwyliog.
Braf oedd gweld plant y dalgylch yn cymysgu a chael llawer o hwyl.
🏃♀️FUN SPORTS DAY🏃
A great afternoon at Ysgol Bro Tryweryn today as Reception, Year 1 and 2 pupils from Ysgol O.M.Edwards, Ffridd Y Llyn and Bro Tryweryn enjoyed taking part in various races.
It was nice to see the children having a lot of fun.
Fel rhan o’n thema ‘O’r fforch i’r fforc’, cafodd dosbarth 3 a 4 y cyfle i ymweld â fferm Gwernhefin. Diolch o galon i deulu Gwernhefin am ddangos eu fferm, â’r broses o wneud llaeth i ni prynhawn yma. Roeddem i gyd wedi mwynhau’n fawr! 🐄🥛
As part of our theme 'From the pitch fork to the fork', class 3 and 4 had the opportunity this afternoon to visit Gwernhefin farm. Thank you to the Gwernhefin family, for showing us their farm and the process of making milk. We all really enjoyed! 🐄🥛
❤️🤍💚ATHLETAU MEIRIONNYDD YR URDD
Cafwyd noswaith arbennig yn Harlech heno wrth i dîm athletau’r ysgol gystadlu yng nghystadleuaeth athletau Urdd Meirionnydd
Cafwyd perfformiadau ardderchog a llwyddwyd i ennill nifer o fedalau! Profiad gwych i’r plant a phawb wedi ymdrechu 💯🏃♂️🏅🏃🏼♀️
Diolch yn fawr i’r rhieni am eu cefnogaeth parod!💪
Pwyllgor Adran nos Iau nesa (20/6) am 7:00. Plis fedrith gymaint â phosib ddod yno i sicrhau bod gwaith yr Adran yn parhau flwyddyn nesa eto. Neuadd Bentref. Diolch o flaen llaw👍🏻
Rygbi i blant 5 a 6 yfory. 🏉
Rugby for Years 5 and 6 tomorrow.🏉
🌟SÊR YR WYTHNOS🌟
Llongyfarchiadau i’n ✨sêr✨ yr wythnos hon am ymdrechu’n galed. Braf oedd cael dathlu eu hymdrechion yn ein gwasanaeth ddoe 🤩
🎶🦧 SIOE HYWEL PITTS A GARETH 🦧🎶
Mwynhaodd Bl.6 fore llawn hwyl a chwerthin yng nghwmni Hywel Pitts a Gareth yr Orangutan 😃
Diolch yn fawr i Xplore o Brifysgol Glyndŵr am gynnal gweithdy ‘Mine to Magnet’ gyda disgyblion Bl.5 y bore ’ma. Pawb wedi mwynhau darganfod mwy am fagnedau a deunyddiau y byd.
Many thanks to Xplore from Glyndŵr University for their 'Mine to Magnet' workshop with Year 5 pupils this morning. Everyone enjoyed finding out more about magnets and the world’s materials.
Dydd Mercher - 👏diwrnod anhygoel i’r Adran⭐️
🥇Parti Llefaru bl 6 ac iau
🥇Parti Llefaru bl 9 ac iau
🥈Parti Cerdd dant bl 6 ac iau
🥈Côr Adran bl 6 ac iau
A pherfformiadau gwych gan y Côr Adran bl 9 ac iau a’r ddeuawd gerdd-dant, Deio a Brychan.
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn brysur yn hyfforddi, yn helpu a’n cefnogi yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i’r disgyblion roi o’i gorau glas!
Dydd Mawrth - Diwrnod prysur arall a phawb ar eu gorau eto heddiw
Llongyfarchiadau mawr i Emrys ar ennill dwy wobr, 2il ar yr unawd cerdd dant a 3ydd ar yr alaw werin. 🥈🥉
Uchafbwynt y diwrnod oedd gweld pob un ar y llwyfan yn canu o’u calonnau yn y côr cerdd dant. Mor falch ohonoch i gyd ar ôl gweithio mor galed!
Bendigedig 🥇🎶⭐️🎶🥇👏
👏 Dydd Llun!🎶⭐️👏🥈
Llongyfarchiadau mawr i Gruff yn 2il am Lefaru bl 5&6 heddiw ac i Ianto yn 2il gyda’i waith ffotograffiaeth.
Cafwyd perfformiad gwych gan Cati ar yr unawd 5&6, Marged ar y delyn, a chriw’r ymgom - Elen, Cati, Emyr ac Idris. Da iawn chi gyd am ein gwneud ni’n falch iawn ohonoch i gyd ⭐️
💙⚽️💛 POB LWC I LANUWCHLLYN! 💛⚽️💙
Wrth i CPD Llanuwchllyn baratoi ar gyfer un o’r gemau pwysicaf yn hanes y clwb, mae pawb yn Ysgol OM yn dymuno pob lwc i Mr Tudor a’i dîm! 💪
Pob lwc hefyd i’r ail dîm yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair!
Blant, cofiwch wneud digon o sŵn yfory a pheidiwch ag anghofio eich baneri!😃
KO 12:30 @ Bala Town FC
Diolch i bawb am eu cefnogaeth i Gyngerdd yr Urdd neithiwr. Cafwyd deunaw o berfformiadau arbennig, a’r plant ar eu gorau. Dymunwn y gorau i bob un o’r eitemau yma fydd yn cystadlu wythnos nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Diolch o galon i bawb sydd wedi bod o gymorth wrth hyfforddi a pharatoi y disgyblion.
GŴYL PÊL DOJ 5 A 6 🟢🟣🔴
Cafwyd prynhawn arbennig yn Ysgol O.M.Edwards heddiw wrth i ddisgyblion 5 a 6 o Ysgol Bro Tryweryn, Ffridd Y Llyn ac O.M.Edwards fwynhau chwarae pêl doj mewn timau cymysg. Y tywydd ddim yn caniatau rygbi yn anffodus.
YEAR 5 AND 6 DODGEBALL 🟢🟣🔴
A great afternoon at Ysgol O.M.Edwards today as year 5 and 6 pupils from Ysgol Bro Tryweryn, Ffridd Y Llyn and O.M.Edwards enjoyed playing dodgeball in their mixed teams. The weather didn’t allow rugby today unfortunately.
Cofiwch am y cyngerdd nos Fercher a dim Adran wythnos yma 🤩
PONTYDD - YMWELIAD JONES BROS👷♂️👷♀️
Diolch yn fawr i Garmon a Gwyn o gwmni Jones Bros am ddod i gynnal Gweithdy Pontydd gyda disgyblion Bl.5 a 6.
Fel rhan o waith thema ‘A Fo Ben, Bid Bont’ cafodd y disgyblion fodd i fyw yn dysgu am waith Peirianneg Sifil a sut mae mynd ati i adeiladu pont geblau.
🤩SÊR YR WYTHNOS🤩
Braf oedd cael dathlu llwyddiannau ein ⭐️sêr yr wythnos⭐️ yn ein gwasanaeth heddiw.
Pob un wedi ymdrechu’n galed ac yn barod i helpu eraill!🌟
✍️🎨PABELL LÊN EISTEDDFOD LLANUWCHLLYN
Heddiw, cynhaliwyd Pabell Lên Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchllyn yma yn Ysgol OM Edwards.
Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf a braf iawn oedd cael dathlu eu hymdrechion. Llongyfarchiadau i bawb am gystadlu a da iawn i’r rhai a ddaeth i’r brig 🥇🥈🥉
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd yr Eisteddfod, Alwyn M. Roberts, am drefnu ac i’r beirniaid, Nia Davies a Delyth Medi, am eu gwaith caled.
Os ydych am docynnau rhatach, cofiwch brynu cyn dydd Sul. Bydd yr Adran yn prynu tocyn i’r rhai sy’n cystadlu.
Discounted admission to the Eisteddfod until Sunday. The Adran will buy a ticket for all competitors.
Dyma amserlen cystadlu yr Eisteddfod eleni! 🎪
Os oes ganddoch chi ddwy gystadleuaeth ymlaen ar yr un amser, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu gyda ni ar [email protected]. ✉️
This is the competition schedule for this year's Eisteddfod. If you have two competitions on at the same time, it is important that you contact us on [email protected].
👉https://www.urdd.cymru/files/3217/1620/4681/Amserlen_ir_wefan_2024_3.pdf
🎫 Tocynnau Cyw Cynnar tan dydd Sul | Early Bird tickets until Sunday: https://urddeisteddfod.ticketsrv.co.uk/parentlist
GŴYL RYGBI 3 A 4
Cafwyd prynhawn gwych yn Ysgol O.M.Edwards heddiw wrth i ddisgyblion bl.3 a 4 gystadlu yn erbyn Ysgol Ffridd Y Llyn ac Ysgol Bro Tryweryn.
Diolch yn fawr i Euros am helpu i drefnu prynhawn llawn hwyl!😀
A great afternoon at Ysgol O.M.Edwards today as year 3 and 4 pupils competed against Ysgol Ffridd Y Llyn and Ysgol Bro Tryweryn.
Big thanks to Euros for helping to organise a fun afternoon!😀
⚽️RYGBI CYMYSG CENEDLAETHOL YR URDD⚽️
Rydym yn hynod o falch o dîm rygbi yr ysgol am gystadlu’n wych yng Ngŵyl Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd eto heddiw!
Da iawn chi fechgyn am chwarae’n wych a dangos ymroddiad a dewrder💪Rydym yn hynod o falch ohonoch!!
Colli o drwch blewyn (3-2) yn y rownd gyn-derfynol oedd yr hanes yn erbyn y pencampwyr.
❤️⚽️💚
⚽️PÊL-DROED CENEDLAETHOL YR URDD⚽️
Rydym yn hynod o falch o dîm pêl-droed yr ysgol am gystadlu’n wych yng Ngŵyl Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd!
Da iawn chi am ymdrechu 💯ac am wneud eich gorau glas 💪
Diolch i Chwaraeon Yr Urdd am drefnu diwrnod bendigedig ☀️⚽️😀
❤️⚽️💚
Pawb wedi mwynhau Techniquest bore ‘ma. 🔬
Everyone enjoyed Techniquest this morning.🔭
Click here to claim your Sponsored Listing.
Videos (show all)
Category
Telephone
Address
Bala
LL237UB
Clwb Golf Y Bala
Bala
Ysgol y Berwyn school reunion 1994-99. Nos Sadwrn Tachwedd 25 - Saturday November 25 5pm till late