Cardiff and Vale Recovery & Wellbeing College

Cardiff and Vale Recovery & Wellbeing College

Free educational courses on a range of mental health, physical health and wellbeing topics. Cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl.

22/05/2024

Connecting through Activities

⏰ 2-hour sessions over 6 weeks starting 11 June

Session 1: 11 June 10:00 -12:00
Session 2: 18 Jun 10:00 -12:00
Session 3: 25 June 10:00 -12:00
Session 4: 2 July 10:00 -12:00
Session 5: 9 July 10:00 -12:00
Session 6: 16 July 10:00 -12:00

Engaging in different types of activity can sometimes feel daunting and overwhelming, especially if it's something new or something we haven't done in a while. It can also be incredibly rewarding. When we have positive engagement with a range of activities within our daily lives it can help us recognise our values and build better connection with others, but also with ourselves. It can surprise us and motivate us in ways we wouldn't have expected.

Connections through Activities explores a variety of activities through interactive conversation, taster tasks, and connecting through a shared learning experience as we discover together how daily activities can be meaningful to our lives.

Register: [email protected]

22/05/2024

Cysylltiadau trwy Weithgareddau

⏰6 gweithdy 2 awr wyneb yn wyneb dros 6 wythnos

Sesiwn 1: 11 Mehefin 10:00 -12:00
Sesiwn 2: 18 Mehefin 10:00 -12:00
Sesiwn 3: 25 Mehefin 10:00 -12:00
Sesiwn 4: 2 Gorffennaf 10:00 -12:00
Sesiwn 5: 9 Gorffennaf 10:00 -12:00
Sesiwn 6: 16 Gorffennaf 10:00 -12:00

Gall cymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau weithiau deimlo’n frawychus ac yn llethol, yn enwedig os yw’n rhywbeth newydd neu’n rhywbeth nad ydym wedi’i wneud ers tro. Gall hefyd fod yn hynod werth chweil. Pan fyddwn yn ymwneud yn gadarnhaol ag amrywiaeth o weithgareddau yn ein bywydau bob dydd, gall ein helpu i gydnabod ein gwerthoedd a meithrin gwell cysylltiadau ag eraill, ond hefyd gyda ni ein hunain. Gall ein synnu a’n hysgogi mewn ffyrdd na fyddem wedi’u disgwyl.

Mae Cysylltiadau trwy Weithgareddau yn archwilio amrywiaeth o weithgareddau trwy sgwrsio rhyngweithiol, tasgau blasu, a chysylltu trwy brofiad dysgu ar y cyd wrth i ni ddarganfod gyda’n gilydd sut y gall gweithgareddau dyddiol fod yn ystyrlon i’n bywydau.

Cofrestrwch: [email protected]

20/05/2024

Understanding Depression

🗓️Session 1 – Friday 21 June 2024
⏰ 10:00 – 12:00

🗓️Session 2 – Friday 28 June 2024
⏰ 10:00 – 12:00

Depression is a common mental health condition that can take hold of your life and deeply disrupt how we think, feel, and live our daily lives.

Understanding the signs, symptoms and causes of depression is the first step to overcoming the problem.

This course explores essential information about depression, how is it diagnosed and how it affects different people. We will discuss what can help overcome the hurdles to recovery, such as negative thinking and what professional support is available.

Register: [email protected]

20/05/2024

Deall Iselder

🗓️Sesiwn 1 – Dydd Gwener 21 Mehefin 2024
⏰ 10:00 – 12:00

🗓️Sesiwn 2 – Dydd Gwener 28 Mehefin
⏰ 10:00 – 12:00

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cyffredin sy’n gallu rheoli eich bywyd ac amharu’n ddwys ar ein ffordd o feddwl, teimlo a sut rydym yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd.

Deall arwyddion, symptomau ac achosion iselder yw’r cam cyntaf i oresgyn y broblem.

Mae’r cwrs hwn yn archwilio gwybodaeth hanfodol am iselder, sut y rhoddir diagnosis ar ei gyfer, a sut y mae’n effeithio ar bobl wahanol. Byddwn yn trafod beth all helpu i oresgyn y rhwystrau i adfer, megis meddwl yn negyddol a pha gymorth proffesiynol sydd ar gael.

Cofrestrwch: [email protected]

06/05/2024

While We Were Walking

Session 1 | 6 June | 13:00-15:00
Session 2 | 13 June | 13:00-15:00
Session 3 | 20 June | 13:00-15:00
Session 4 | 27 June | 13:00-15:00

Over 4 weeks we will be exploring together the 5 ways to Wellbeing: Connecting; Being Active; Taking notice; Keep learning and giving.

We will meet in Insole Court, exploring the natural environment together, in a mindful and enjoyable way. Throughout the course we will reflect on how being active and being present in natural surroundings can help with our wellbeing.

The walking is gentle, and all abilities are welcome.

Register: [email protected]

06/05/2024

Wrth i ni Gerdded

Sesiwn 1 | 6 Mehefin | 13:00-15:00
Sesiwn 2 | 13 Mehefin | 13:00-15:00
Sesiwn 3 | 20 Mehefin | 13:00-15:00
Sesiwn 4 | 27 Mehefin | 13:00-15:00

Dros 4 wythnos byddwn yn archwilio gyda’n gilydd y 5 ffordd at Les: Cysylltu; Bod yn Egnïol; Cymryd sylw; Dal ati i ddysgu a rhoi.

Byddwn yn cyfarfod yng Nghwrt Insole, Llandaf, gan archwilio’r amgylchedd naturiol gyda’n gilydd, mewn ffordd ystyrlon a phleserus. Drwy gydol y cwrs byddwn yn myfyrio ar sut y gall bod yn actif a bod yn bresennol yn ein hamgylchedd naturiol ein helpu gyda’n lles.

Mae’r cerdded yn hamddenol, a chroesewir pobl o bob gallu.

Cofrestrwch: [email protected]

30/04/2024

Menopause & Movement

Session 1 | 24 May | 10:30-12:30
Session 2 | 26 June | 10:30-13:00

Are you curious about menopause? Do you or someone you know struggle with menopausal systems?

This course offers you the opportunity to share your experiences and increase your knowledge around menopause through discussion, reflection and expressive movement. You will look at ways to support your menopause symptoms.

This course is split into 2 sessions, one online and one in person. No previous movement experience is needed.

Register: [email protected]

30/04/2024

Menopos a Symud

Sesiwn 1 | 24 Mai | 10:30-12:30
Sesiwn 2 | 26 Mehefin | 10:30-13:00

Ydych chi’n chwilfrydig am y menopos? Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn cael trafferth gyda systemau’r menopos?

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi rannu eich profiadau a gwella eich gwybodaeth am y menopos trwy drafodaeth, myfyrio a symud yn fynegiannol. Byddwch yn edrych ar ffyrdd o gefnogi symptomau’r menopos.

Mae’r cwrs hwn wedi’i rannu’n 2 sesiwn, un ar-lein ac un wyneb yn wyneb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o symud.

Cofrestrwch: [email protected]

27/04/2024

Connecting to Relationships

🗓️Wednesday 15 May 2024
🗓️Wednesday 22 May 2024

⏰ 10:00 – 12:30

Trauma and adverse life experiences can sometimes understandably leave people feeling disconnected, less able to trust and wary of the challenges that relationships can bring.

This workshop co-produced by Paul Whittaker and Susie Boxall will provide some introductory information and opportunities for discussion on the range of interpersonal challenges people may face following trauma and adverse life events, including anxieties around future abandonment, abuse or what others think of us.

Register: [email protected]

27/04/2024

Cysylltu â Chydberthnasau

🗓️Dydd Mercher 15 Mai 2024
🗓️Dydd Mercher 22 Mai 2024

⏰ 10:00 – 12:30

Gall trawma a phrofiadau bywyd niweidiol weithiau wneud i bobl deimlo wedi’u datgysylltu, yn llai abl i ymddiried mewn pobl eraill ac yn amheus o’r heriau y gall perthynas eu cyflwyno.

Bydd y gweithdy hwn, a gyd-gynhyrchwyd gan Paul Whittaker a Susie Boxall, yn darparu rhywfaint o wybodaeth ragarweiniol a chyfleoedd i drafod yr ystod o heriau rhyngbersonol y gall pobl eu hwynebu yn dilyn trawma a digwyddiadau bywyd niweidiol, gan gynnwys pryderon ynghylch cael eich gadael yn y dyfodol, camdriniaeth neu beth mae eraill yn ei feddwl ohonom.

Cofrestrwch: [email protected]

26/04/2024

Discovering Self compassion

🗓️ 13 May 2024

⏰ 10:00 – 13:00

Do you find it hard to make time to look after yourself? Do you criticise yourself and treat yourself more harshly than you would other people?

We welcome you to join them to learn to be more compassionate to yourself and understand that being kinder to ourselves is possible for everyone.

Register: [email protected]

26/04/2024

Darganfod Hunandosturi

🗓️ 13 Mai 2024

⏰ 10:00 – 13:00

Ydych chi’n ei chael yn anodd dod o hyd i amser i ofalu am eich hunan? Ydych chi’n beirniadu eich hun ac yn trin eich hun yn waeth nag y byddech yn trin pobl eraill?

Caiff y cwrs hwn ei gyd-gynhyrchu gan Georgia Howard ac Aleks Mazurkiewicz, ac maent yn eich croesawu i ymuno â nhw i ddysgu i fod yn fwy tosturiol wrthych chi eich hun, a deall ei bod yn bosibl i bawb fod yn fwy caredig i’w hunain.

Cofrestrwch: [email protected]

25/04/2024

Experience of Addiction

Session 1 | 11 June | 10:00-12:00
Session 2 | 18 June | 10:00-12:00

Experience of Addiction brings together Rachel Martin-Suarez and Susie Boxall to discuss their lived experience of addiction, as well as their experience of working with people experiencing addiction challenges.

This course is suitable for people living in addiction, their family members and professionals who are working to support them.

Register: [email protected]

25/04/2024

Profiad o Ddibyniaeth

Sesiwn 1 | 11 Mehefin | 10:00-12:00
Sesiwn 2 | 18 Mehefin | 10:00-12:00

Yn ystod y cwrs Profiad o Ddibyniaeth, mae Rachel Martin-Suarez a Susie Boxall yn dod ynghyd i drafod eu profiad bywyd o ddibyniaeth yn ogystal â’u profiad o weithio gyda phobl sy’n wynebu heriau dibyniaeth.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl sy’n byw gyda dibyniaeth, aelodau o’u teulu a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i’w cefnogi.

Cofrestrwch: [email protected]

24/04/2024

Managing Stress, Health & Wellbeing at Work

Session 1 | 5 June | 10:00-12:00
Session 2 | 12 June | 10:00-12:00
Session 3 | 19 June | 10:00 – 12:00

‘An estimated 17 million working days were lost due to work related stress, depression or anxiety in 2021/2022’

We are excited to offer our 3-part Managing Stress, Health and Wellbeing at work’ course.

This course is for people who are considering entering or re - entering employment and for those currently in employment. We ask that students commit to all 3 sessions to maximise the benefit from attending.

Register: [email protected]

24/04/2024

Rheoli Straen a Lles Iechyd yn y Gwaith

Sesiwn 1 | 5 Mehefin | 10:00-12:00
Sesiwn 2 | 12 Mehefin | 10:00-12:00
Sesiwn 3 | 19 Mehefin | 10:00 – 12:00

‘Amcangyfrifir bod 17 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi’u colli oherwydd straen, iselder neu bryder sy’n gysylltiedig â gwaith yn 2021/2022’

Rydym yn gyffrous i gynnig ein cwrs 3 rhan Rheoli Straen, Iechyd a Lles yn y Gwaith’.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n ystyried dechrau neu ailddechrau cyflogaeth a’r rhai sydd mewn cyflogaeth ar hyn o bryd. Gofynnwn i fyfyrwyr ymrwymo i bob un o’r 3 sesiwn i wneud y mwyaf o’r budd o fynychu.

Cofrestrwch: [email protected]

23/04/2024

Understanding Depression

📍Virtual

🗓️Session 1 – Monday 10 May 2024
⏰ 10:00 – 12:00

🗓️Session 2 – Monday 17 May
⏰ 10:00 – 12:00

Depression is a common mental health condition that can take hold of your life and deeply disrupt how we think, feel, and live our daily lives.

Understanding the signs, symptoms and causes of depression is the first step to overcoming the problem.

This course explores essential information about depression, how is it diagnosed and how it affects different people. We will discuss what can help overcome the hurdles to recovery, such as negative thinking and what professional support is available.

Register: [email protected]

23/04/2024

Deall Iselder

📍Rhithwir

🗓️Sesiwn 1 – Dydd Llun 10 Mai 2024
⏰ 10:00 – 12:00

🗓️Session 2 – Dydd Llun 17 Mai
⏰ 10:00 – 12:00

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cyffredin sy’n gallu rheoli eich bywyd ac amharu’n ddwys ar ein ffordd o feddwl, teimlo a sut rydym yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd.

Deall arwyddion, symptomau ac achosion iselder yw’r cam cyntaf i oresgyn y broblem.

Mae’r cwrs hwn yn archwilio gwybodaeth hanfodol am iselder, sut y rhoddir diagnosis ar ei gyfer, a sut y mae’n effeithio ar bobl wahanol. Byddwn yn trafod beth all helpu i oresgyn y rhwystrau i adfer, megis meddwl yn negyddol a pha gymorth proffesiynol sydd ar gael.

Cofrestrwch: [email protected]

22/04/2024

“My Head is Full of Bees” – How we can use the arts to express our emotions, moods, thoughts and behaviours in a meaningful way for ourselves and others to understand.

Session 1 | 2 May | 10:00-12:30
Session 2 | 9 May | 10:00-12:30
Session 3 | 16 May | 10:00-12:30

Through creative conversation combined with a variety of arts practices, this course will explore how using creative metaphors can help us identify, understand and share our feelings to aid our self-expression. No previous arts experience is required.

Register: [email protected]

22/04/2024

Mae fy mhen yn llawn gwenyn – Sut y gallwn ddefnyddio’r celfyddydau i fynegi ein hemosiynau, hwyliau, meddyliau ac ymddygiadau mewn ffordd ystyrlon i ni ein hunain ac eraill ei deal.

Sesiwn 1 | 2 Mai | 10:00-12:30
Sesiwn 2 | 9 Mai| 10:00-12:30
Sesiwn 3 | 16 Mai | 10:00-12:30

Drwy sgwrsio creadigol ynghyd ag amrywiaeth o arferion celfyddydol, bydd y cwrs hwn yn archwilio sut y gall defnyddio trosiadau creadigol ein helpu i adnabod, deall a rhannu ein teimladau i gynorthwyo ein hunanfynegiant. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o’r celfyddydau.

Cofrestrwch: [email protected]

07/04/2024

Adferiad a Hunaniaeth

🗓️29 Ebrill 2024
⏰10:00 – 13:00

Pan roddir diagnosis neu pan fyddwch yn byw gyda chyflwr corfforol neu feddyliol, mae’r gair adferiad yn cael ei ddefnyddio’n aml gan y bobl sy’n ymwneud â’n gofal a’n cymorth, ond beth mae’n ei olygu i mi? Sut mae gwneud lle i’r peth hwn a elwir yn adferiad yn fy mywyd a sut mae adferiad yn edrych pan fydd gennyf gyflwr parhaus na fydd yn gwella fel asgwrn wedi’i dorri?

Yn y rhaglen Adferiad a Hunaniaeth, byddwn yn trafod sut y gellir plethu adferiad i’n hunaniaeth, archwilio rolau, cydberthnasau a gwerthoedd y mae ein sefyllfaoedd unigryw yn effeithio arnynt, a’r camau y gallwn eu cymryd i symud tuag at fod y bobl yr ydym yn dyheu am fod.

Cofrestrwch: [email protected]

07/04/2024

Recovery and Identity

🗓️29 April 2024
⏰10:00 – 13:00

When given a diagnosis or living with a physical or mental condition, the word recovery gets used a lot by the people involved in our care and support, but what does it mean to me? How do I make space for this thing called recovery in my life and what does recovery look like when I have an enduring condition that won't just heal like a broken bone?

In Recovery and Identity, we'll discuss how recovery can be interwoven into our identity, explore roles, relationships and values that are impacted by our unique situations, and the steps we can take to move towards being the people we aspire to be.

Register: [email protected]

06/04/2024

Mae’n fwy na bod ‘wedi blino’ - gwneud synnwyr o flinder

🗓️ Dydd Mercher 8 Mai 2024
⏰ 10:00 – 13:00

Mae blinder yn un o symptomau tawel anweledig llawer o gyflyrau hirdymor, a gall hefyd fod o ganlyniad i straen, meddyginiaethau a thriniaeth. Mae blinder yn effeithio ar ein ffordd o feddwl, sut rydym yn teimlo a sut rydym yn cyfranogi mewn tasgau a bywyd o ddydd i ddydd.

Gall profi blinder ei gwneud yn anodd i ni ofalu am ein hunain a gall effeithio ein lles cyffredinol. Mae blinder yn anodd ei esbonio i’n hunain ac i eraill. Nid oes gwellhad ar gyfer blinder, ond gall ei ddeall, a sut i’w reoli yng nghyd-destun ein bywydau, helpu i wella ein lles.

Mae’r cwrs hwn yn edrych ar beth yw blinder, a pham y gallem fod yn ei brofi. Byddwn yn archwilio strategaethau rheoli gan ddefnyddio arbenigedd profiad personol, a rhywfaint o wybodaeth glinigol.

Cofrestrwch: [email protected]

06/04/2024

I'm more than just 'tired' - making sense of fatigue

🗓️ Wednesday 8 May 2024
⏰ 10:00 – 13:00

Fatigue is a silent unseen symptom of many long-term conditions, and may also be a result of stress, medications, and treatment. Fatigue affects how we think, feel, and participate in everyday tasks and life.

Experiencing fatigue can make looking after ourselves a struggle and impact our overall wellbeing. Fatigue is difficult to explain to ourselves and others. There is no cure for fatigue but understanding it and how to manage it in the context of our lives may help improve our wellbeing.

This course looks at what fatigue is and why we might be experiencing it. We will explore management strategies using the expertise of lived experience, and some clinical knowledge

Register: [email protected]

05/04/2024

I Just Can’t Sleep

📍Virtual

🗓️Thursday 25 April 2024

⏰ 10:00 – 12:00

Living with a mental or physical health challenge can affect our sleep. When our sleep is impacted it can also affect our health and wellbeing.

This online workshop will explore how sleep works, why we need it and the common causes of some sleep difficulties, with the aim of helping you form some strategies to improve your sleep.

Register: [email protected]

05/04/2024

Ni allaf gysgu

🗓️Dydd Iau 25 Ebrill 2024

⏰ 10:00 – 12:00

Gall byw gyda her iechyd meddwl neu gorfforol effeithio ar ein cwsg. Pan effeithir ar ein cwsg, gall hefyd effeithio ar ein hiechyd a’n lles.

Bydd y gweithdy ar-lein hwn yn archwilio sut mae cwsg yn gweithio, pam mae ei angen arnom ac achosion cyffredin anawsterau cysgu, gyda’r nod o’ch helpu chi i ffurfio strategaethau i wella eich cwsg.

Cofrestrwch: [email protected]

04/04/2024

Peer Support Skills

🗓️Tuesday 7 May 2024
🗓️Tuesday 14 May 2024
🗓️Tuesday 21 May 2024

⏰ 10:00 – 12:30

A peer is someone who has ‘lived experience of mental health and/or physical health challenges,’ who wants to use this experience in order to support others with their own recovery.

A peer offers support to others through sharing their personal experiences of recovery in a hope inspiring way. This course is a basic introduction to peer support skills and a perfect place to start your peer support worker journey. Learners do not have to have previous experience in peer support.

Register: [email protected]

04/04/2024

Sgiliau Cymorth gan Gymheiriaid

🗓️Dydd Mawrth 7 Mai 2024
🗓️Dydd Mawrth 14 Mai 2024
🗓️Dydd Mawrth 21 Mai 2024

⏰ 10:00 – 12:30

Cymheiriad yw rhywun sydd â ‘phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl a/neu iechyd corfforol’, sydd am ddefnyddio’r profiad hwn er mwyn cefnogi eraill gyda’u hadferiad eu hunain.

Mae cymheiriad yn cynnig cefnogaeth i eraill trwy rannu ei brofiadau personol o adferiad mewn ffordd ysbrydoledig. Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad sylfaenol i sgiliau cymorth gan gymheiriaid ac yn lle perffaith i gychwyn eich taith fel gweithiwr cymorth cymheiriaid. Nid oes rhaid i ddysgwyr gael profiad blaenorol o gymorth cymheiriaid.

Cofrestrwch: [email protected]

03/04/2024

Understanding Neurodiversity

Session 1 | 18 April | 11:00-13:30
Session 2 | 25 April | 11:00-13:30
Session 3 | 2 May | 11:00-13:30
Session 4 | 9 May | 11:00-13:30

This online course provides an opportunity to explore the meaning of neurodiversity and the emotional and social experiences of living as a neurodiverse person.

We will consider identity, communication and mental health in relation to neurodiversity, and we will also explore the challenges and benefits of being neurodiverse.

We will explore what helps and what doesn’t help neurodiverse people, focusing on emotional wellbeing and self-acceptance.

Register: [email protected]

03/04/2024

Deall Niwroamrywiaeth

Sesiwn 1 | 18 Ebrill | 11:00-13:30
Sesiwn 2 | 25 Ebrill | 11:00-13:30
Sesiwn 3 | 2 Mai | 11:00-13:30
Sesiwn 4 | 9 Mai | 11:00-13:30

Mae’r cwrs ar-lein hwn yn cynnig cyfle i archwilio ystyr niwroamrywiaeth a’r profiadau emosiynol a chymdeithasol o fyw fel person niwroamrywiol.

Byddwn yn ystyried hunaniaeth, cyfathrebu ac iechyd meddwl mewn perthynas â niwroamrywiaeth, a byddwn hefyd yn archwilio’r heriau a’r manteision o fod yn niwroamrywiol.

Byddwn yn edrych ar beth sy’n helpu a beth sy’n rhwystr i bobl niwroamrywiol, gan ganolbwyntio ar les emosiynol a hunan-dderbyn.

Cofrestrwch: [email protected]

Videos (show all)

Connecting through Activities - Register today
Cysylltiadau trwy Weithgareddau - Cofrestrwch heddiw
Understanding Psychosis
Beth yw Seicosis?
Introduction to Individual Learning Plans
Cyflwyniad i Gynlluniau Dysgu Unigol
What is Psychosis?
Beth yw Seicosis?
Connecting through Activities
Cysylltu drwy weithgareddau
Understanding Psychosis
Deall Seicosis

Telephone