CBAC / WJEC, Cardiff Videos

Videos by CBAC / WJEC in Cardiff. Mae CBAC yn brif gorff arholi sy'n darparu cymwysterau ac asesiadau arholiadau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau annibynnol.

Home Page WJEC Educational Resources Website

Gwella dysgu, galluogi cyrhaeddiad 🧠🏆

Adnoddau Addysgol Digidol CBAC - https://resources.wjec.co.uk/default.aspx?_ga=2.247684804.2137102880.1709542839-1220506541.1668087511

Click to enable sound Next

Other CBAC / WJEC videos

Home Page WJEC Educational Resources Website
Gwella dysgu, galluogi cyrhaeddiad 🧠🏆 Adnoddau Addysgol Digidol CBAC - https://resources.wjec.co.uk/default.aspx?_ga=2.247684804.2137102880.1709542839-1220506541.1668087511

💡✨ Gan fod ein myfyrwyr wrthi’n gweithio’n brysur ar eu projectau terfynol ar hyn o bryd, dyma rywfaint o ysbrydoliaeth i chi gan yr amrywiaeth anhygoel o ddyfeisiadau a welwyd y llynedd yn Seremoni Flynyddol ein Gwobrau Arloesedd yn y Senedd!

Dwi'n ansicr am fy nghanlyniadau - beth yw fy opsiynau? 🤔 Os nad ydych yn siŵr am eich canlyniadau, gall eich ysgol neu goleg roi arweiniad i chi - gyda nifer o wasanaethau ar ôl y canlyniadau ar gael! Dysgwch fwy yn ein fideo diweddaraf, ac ewch i'n canolfan Diwrnod Canlyniadau am fwy o wybodaeth ddefnyddiol. #Canlyniadau2023 #CanlyniadauCymru #CanlyniadauLefelA #CBACIFyfyrwyr

Os nad ydych yn siŵr am eich canlyniadau, mae'n bwysig iawn eich bod yn siarad â'ch ysgol neu goleg a byddant yn gallu eich helpu. 👇 Gwyliwch y fideo yma ac ewch i'n tudalennau Cefnogaeth i Fyfyrwyr am fwy o wybodaeth ddefnyddiol: https://bit.ly/3qs9U3T

Beth yw ffiniau graddau? 🤔 Byddwch yn clywed llawer am ffiniau graddau dros yr wythnosau nesaf wrth i chi gael eich canlyniadau. Ond efallai eich bod chi'n pendroni... 👉 Beth ydyn nhw? 👉 Sut maen nhw'n cael eu pennu? 👉 Pryd maen nhw'n cael eu cyhoeddi? Mae ein fideo diweddaraf yn esbonio! #CanlyniadauCymru #Canlyniadau2023 #LefalA #TGAU #CBACIFyfyrwyr

🤔 Pryd byddaf yn derbyn fy nghanlyniadau a thystysgrifau yn 2023? 📅 P'un a ydych yn cael canlyniadau ar gyfer TGAU, UG/Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol y mis hwn, gallwch gael yr holl ddyddiadau allweddol y mae angen i chi eu gwybod yma. #CanlyniadauCymru #CBACIFyfyrwyr #CanlyniadauHaf2023

Fel Llysgennad Sgiliau ar gyfer ACT Training, mae Jonathan Davies yn dweud wrthym pam ei fod yn credu bod cymhwyster fel ein cymhwyster 'Hunanddatblygiad a Llesiant' newydd yn bwysig i bobl ifanc heddiw. #cymhwysternewydd #acttraining #cbacifyfyrwyr

Mae'n dechrau heddiw! Dymunwn POB LWC! I’n dysgwyr sy’n sefyll eu harholiadau ac asesiadau. Rydych chi i gyd wedi bod yn gweithio mor galed, a dyma’ch amser i serennu✨ #PobLwc

Pam nad oes unrhyw wybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymhwyster rwy'n astudio? 🧐 Dysgwch fwy isod a darganfyddwch sut bydd arholiadau'r haf hwn yn gweithio yn ein Canllaw I Fyfyrwyr: https://bit.ly/3H3rNKB @LlC_Addysg @cymwysterau_cym

Mae pob un o'n cymwysterau wedi'u llunio i ysgogi myfyrwyr a'u cymhwyso ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau. 👇 Dysgwch fwy am ein rôl fel sefydliad: https://bit.ly/3nuIloE

“Pam nad oes gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer fy nghymhwyster?” 🤔 Bydd gwybodaeth ymlaen llaw ar gael ar gyfer y canlynol: ✅ Pob cymhwyster cyffredinol CBAC (TGAU a UG/Safon Uwch) wedi’i reoleiddio gan Cymwysterau Cymru ✅ Phob cymhwyster galwedigaethol ar gyfer Cymru (y gyfres Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant) wedi’i reoleiddio gan Cymwysterau Cymru Fodd bynnag, nid oes gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer cymwysterau cyffredinol gan frand Eduqas, sy’n cael eu rheoleiddio gan Ofqual a’u dynodi i’w defnyddio yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod y llywodraeth a’r rheoleiddiwr yn Lloegr wedi perderfynu na fydd gwybodaeth ymlaen llaw yn 2023. #gwybodaethymlaenllaw #arholiadauhaf2023 #cbacifyfyrwyr

🤔 Beth yw gwybodaeth ymlaen llaw? A sut fydd o'n eich helpu chi gyda'ch arholiadau yr haf yma? Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn nodi ffocws rhai cwestiynau yn yr arholiad, i helpu gyda'ch adolygu.

A DDYLWN I GANOLBWYNTIO AR YR HYN SYDD YN YWYBODAETH YMLAEN LLAW YN UNIG? 🧐 Dysgwch fwy isod a darganfyddwch sut bydd arholiadau'r haf hwn yn gweithio yn ein Canllaw Myfyrwyr llawn: https://bit.ly/3H3rNKB

Eisiau cael y gorau o'n hadnoddau Dysgu Cyfunol? Heddiw rydym yn edrych ar y dull Dysgu Gwrthdro! 👇 Darganfyddwch ein hystod enfawr o fodiwlau Dysgu Cyfunol yma: https://bit.ly/3Md2RCA

🤔 Ydych chi'n meddwl tybed a allwch chi gymryd gwybodaeth ymlaen llaw i'r arholiad? Ni ellir dod â gwybodaeth ymlaen llaw i arholiad. Fe’i cynlluniwyd i helpu i flaenoriaethu adolygu, nid fel rhywbeth i’w ddefnyddio i’ch helpu yn yr arholiad. ✍ Pe bai’n cael ei ddefnyddio yn yr arholiad ei hun, gallai arwain at ganlyniadau annheg ac amharu ar ddilyniant. ❌

Bydd y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd yn helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar sy'n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle. Cymerwch olwg ar ein fideo newydd 🎥 Dysgwch fwy am y cymhwyster yma: https://bit.ly/3QOiO4q

🤔 Ydych chi'n meddwl tybed a ddylech chi ond canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y wybodaeth ymlaen llaw i adolygu ar gyfer eich arholiadau? Gan amlaf, ni fydd gwybodaeth ymlaen llaw yn cynnwys popeth a fydd yn cael ei asesu. Gall rhai cwestiynau yn yr arholiadau ofyn am wybodaeth y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i chynnwys yn y wybodaeth ymlaen llaw. I sicrhau eich bod yn perfformio cystal ag y gallwch chi yn yr arholiadau, dylech adolygu holl gynnwys y cwrs. ✍ #gwybodaethymlaenllaw #arholiadauhaf2023 #cbacifyfyrwyr

🤔 Beth yw gwybodaeth ymlaen llaw? A sut fydd o'n eich helpu chi gyda'ch arholiadau yr haf yma? Mae gwybodaeth ymlaen llaw yn nodi ffocws rhai cwestiynau yn yr arholiad, i helpu gyda'ch adolygu.