MyUni - Abertawe

MyUni - Abertawe

You may also like

Eawsytgewqayhgwaeyh
Eawsytgewqayhgwaeyh

Mae MyUni yn rhoi mynediad at bopeth y mae ei angen ar fyfyrwyr presennol mewn un lle. Rydym yn dod â gwasanaethau myfyrwyr ynghyd mewn un lle cyfleus!

MyUniHun yw’r lle i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe fynd am wybodaeth a chyngor. Gallwn ateb eich cwestiynau wyneb yn wyneb, drwy e-bost neu dros y ffôn.

20/09/2024

Shwmae Besties! Mae Brat Summer drosodd ac mae ein tîm Diogelwch ac Ymateb y Campws yma i’ch dangos o gwmpas...

20/09/2024

Darganfod pwer Gwirfoddoli! 💜

Chwilio am ffordd i roi rhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Mae gan Wasanaeth Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe Discovery lawer o gyfleoedd gwirfoddoli i ti gymryd rhan ynddyn nhw.

Ymunwch â ni a gwnewch argraff drwy gofrestru yma: https://brnw.ch/21wMUzF

18/09/2024

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd a symudodd ymlaen ym mis Medi. 💻

Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth ar sut i gofrestru!

🔗 https://brnw.ch/21wMMj0

18/09/2024

Pleidleisiwch drosom ni yng Ngwobr Dewis y Bobl y Faner Werdd! 🌲

Gall eich pleidlais wneud gwahaniaeth enfawr. Drwy bleidleisio drosom, rydych yn cefnogi dyfodol gwyrddach ac yn dangos gwerthfawrogiad o’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n rhan o gynnal a chadw ein mannau gwyrdd.

Ewch draw i'n tudalennau newyddion i ddarganfod sut: https://brnw.ch/21wMLXp

Mae'r bleidlais yn cau ar 10 Hydref.

17/09/2024

Croeso MAWR Cymreig i’n myfyrwyr newydd a’n myfyrwyr sy’n dychwelyd wrth i chi gyrraedd Abertawe!

Gallwn ni eich helpu chi i ymgynefino i fywyd fel myfyriwr yn Abertawe trwy wybodaeth am bethau megis llety, cyfleusterau, a theithio.

🔗 https://brnw.ch/21wMKjw

17/09/2024

Mae’n bleser gennym roi gwybod i chi am gynnig o ddisgownt 10% rydym wedi ei sicrhau i fyfyrwyr nad ydynt yn gymwys am y cynllun Fy Ngherdyn Teithio.

Cliciwch ar y linc i ddarganfod mwy: https://brnw.ch/21wMJM0

16/09/2024

Mae cofrestru bellach ar agor i fyfyrwyr newydd! 💻

Cliciwch ar y ddolen isod i weld ein camau cofrestru am fwy o wybodaeth.

🔗 https://brnw.ch/21wMHgz

15/09/2024

Wrth i ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd agosáu, mae Llyfrgell y Bae'n parhau i fod ar agor ddydd a nos ac ar gael i chi ei defnyddio a'i mwynhau.

Bydd rhai diweddariadau hanfodol yn cael eu gwneud i rwydwaith y Llyfrgell ddydd Llun 16 Medi rhwng 07:00 a 17:00 i adnewyddu a gwella galluoedd ein rhwydwaith. Efallai y bydd y gwaith hwn yn tarfu ychydig ar y rhwydwaith ond bydd eich tîm Llyfrgell MyUni cyfeillgar wrth law i roi'r wybodaeth ddiweddaraf a chymorth wrth i chi ddefnyddio cyfleusterau'r Llyfrgell.

14/09/2024

Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal gweithdy Croeso i’r Brifysgol i’th helpu i gael mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl, a’th dywys drwy awgrymiadau defnyddiol ar gyfer dy ddysgu.

Gwahoddir myfyrwyr i’r digwyddiad ar-lein hwn a gynhelir ar Zoom o 10am tan 2pm.

Darllen mwy: https://brnw.ch/21wMFhU

14/09/2024

Bydd Ras Admiral 10 cilomedr Bae Abertawe yn dychwelyd yfory.

Byddwch yn barod am fydd ffyrdd gael eu cau ac bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio yn ogystal â chyfyngiadau ar barcio i sicrhau ras diogel.

Ewch i weld: https://brnw.ch/10kcymraeg

Photos from MyUni - Abertawe's post 13/09/2024

Ymunwch â ni am ein sesiwn flynyddol yn gwasgu sudd o afalau! 🍏

Ar ôl casglu'r afalau o Dwyni Crymlyn ar ein SoDdGA ar Gampws y Bae, rydyn ni'n troi'r afalau hyfryd hyn yn sudd afalau i bawb ei flasu a mynd â pheth adref.

O flaen ein gwelyau blodau ar Gampws Parc Singleton, byddwn yn gwasgu afalau gan drafod cynaliadwyedd a'r holl ffyrdd gwahanol y gallwch chi gymryd rhan yn ein gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar 20 Medi 2024. Archebwch le isod!

https://www.eventbrite.co.uk/e/apple-pressing-session-sesiwn-gwasgu-afalau-tickets-1002902156347?aff=ebdsoporgprofile&_gl=1%2A1fi5w6o%2A_up%2AMQ..%2A_ga%2AMjAxOTM1NjUzOS4xNzI0ODMxOTMw%2A_ga_TQVES5V6SH%2AMTcyNDgzMTkzMC4xLjAuMTcyNDgzMTkzMC4wLjAuMA

13/09/2024

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn ail agor ar Dydd Llun, Medi 16eg.

Rydym yn cyflwyno 100 o feiciau newydd sbon i rwydwaith llogi beiciau Abertawe dros y wythnosau nesaf. Mae’r beiciau, sydd â system gloi well a thracio GPS, yn uwchraddiad o’r model blaenorol a byddant yn cynnig taith esmwyth a chyfforddus i feicwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd.

Darganfyddwch fwy: https://brnw.ch/21wMCQr

12/09/2024

Ydych chi'n fyfyriwr newydd sy'n chwilio am eich amserlen addysgu? Unwaith y bydd yn fyw, byddwch yn gallu gweld hwn ar ein tudalennau gwe amserlen.

Byddwch yn derbyn mwy o wybodaeth am hyn yn ystod cyfnod Sefydlu eich Ysgol.

https://brnw.ch/fyamserlen

12/09/2024

I sicrhau cyfnod cyrraedd esmwyth i bawb am y semester sydd i ddod, byddwn yn defnyddio sawl maes parcio ar campws gan gychwyn ar y 17eg o Fedi.

Cliciwch y linc isod am bopeth sydd angen i chi ei wybod am barcio a teithio yn ystod y cyfnod hwn: https://brnw.ch/21wMAEw

11/09/2024

Oeddet ti'n gwybod bod Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi dros 150 o gymdeithasau? Mae rhywbeth i bawb!

Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl sydd o'r un meddylfryd â thi a gwneud ffrindiau newydd.

Cofrestra ar gyfer clwb chwaraeon neu gymdeithas heddiw. Cer i wefan Undeb y Myfyrwyr i weld yr hyn sy'n cael ei gynnig:https: //www.swansea-union.co.uk/

10/09/2024

Am bopeth sydd angen i chi ei wybod am lywio Abertawe ar fws, ewch draw i'r cylchlythyr myfyrwyr.

Mae gwybodaeth am y Gwasanaeth Unibus, tocynnau, a Pharcio a Teithio ar gael yma: https://brnw.ch/21wMw5L

09/09/2024

Oherwydd cau’r ffordd ar y campws a drefnir gan UPP, ni fydd bysiau’n gallu mynd i Gampws y Bae fory, dydd Mawrth 10 Medi rhwng 8am a 10am, felly byddant yn codi ac yn gollwng y tu allan i’r campws ar Ffordd Fabian yn ystod yr amser hwnnw.

09/09/2024

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd a symudodd ymlaen ym mis Gorffennaf.

Os ydych yn sefyll arholiadau atodol byddwch yn gallu cofrestru ar 18 Medi. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarganfod dyddiadau cofrestru allweddol!

🔗 https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/cofrestru/amserlen-cofrestru/

07/09/2024

Podlediad Profiad Myfyrwyr Rhyngwladol – Mae Cyfres 2 ar gael nawr!

Ar ôl cyhoeddi rhai penodau eisoes, allwn ni ddim aros i rannu rhagor o straeon anhygoel â thi. Os nad wyt ti wedi gwrando ar ein podlediad eto, rho gynnig arno!

Gwrandewch yma: https://brnw.ch/21wMroK

06/09/2024

Mae MyUniHub wedi ymestyn eu horiau cyswllt dros dro i gefnogi a datrys ymholiadau am gofrestru, ynghyd ag unrhyw ymholiad arall a allai fod gennych, dros gyfnod prysur mis Medi.

O ddydd Llun 2 Medi tan ddydd Gwener 11 Hydref, gallwch siarad â'r tîm dros y ffôn ar 01792 606000 o 08:30 tan 17:00.

Nid yw oriau'r tîm wrth y ddesg wedi newid.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma: https://brnw.ch/21wMqdT

06/09/2024

Dros y misoedd diwethaf a dros yr haf, rydym wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau ar draws Campws Singleton a Champws y Bae.

Ewch draw i'ch cylchlythyr myfyrwyr i weld beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud!

🔗 https://brnw.ch/21wMpMo

05/09/2024

Paratoi ar gyfer y semester cyntaf! 🚲

Yma yn Abertawe, mae gennym lwybrau beicio hygyrch, llyfn a gwastad sy’n bleser eu defnyddio. Mae Teithio Llesol gan gynnwys beicio, cerdded ac olwynion yn ffyrdd gwych o fynd o gwmpas.

A nawr, gyda dros 100 o feiciau glas newydd sgleiniog a 7 gorsaf docio ledled y ddinas, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi ail-lansio Beiciau Santander fel Beiciau Prifysgol Abertawe.

Darllen mwy: https://brnw.ch/21wMmBO

03/09/2024

Sylw i holl drigolion myfyrwyr Abertawe! Wyddech chi fod casgliadau gwastraff wedi'u rhannu'n wythnosau gwyrdd a phinc?

Caiff deunyddiau gwahanol eu casglu bob pythefnos a chaiff gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos.

Bydd pecynnau gwybodaeth yn cael eu dosbarthu gan dîm ailgylchu'r Cyngor ar ddechrau'r tymor yn eich helpu i drefnu eich gwastraff a byddwch hefyd yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf.

🔗 https://www.abertawe.gov.uk/ailgylchumyfyrwyr

Photos from MyUni - Abertawe's post 31/08/2024

Rydyn ni'n teimlo'n ffodus iawn o gael tir mor hardd ar y campws 🌲

Mae ein timau'n gweithio'n galed i baratoi i groesawu ein myfyrwyr newydd a'n myfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi cyn bo hir!

29/08/2024

Bydd Molly y tu Allan I dŷ Fulton amser cinio bob dydd Iau rhwng 12pm ac 1pm!🦮

28/08/2024

Oes gen ti gwestiwn i ni? Nawr yw dy gyfle i ofyn! Clicia ar y ddolen isod i gyflwyno dy gwestiynau i'n timau allweddol ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Teithio, MyUniHub ac Arian@BywydCampws.

Gwna'n siŵr i gadw llygad ar ein straeon Instagram a byddwn yn darparu'r atebion yn agosach at ddechrau'r tymor.

https://brnw.ch/gofyncwestiwn

27/08/2024

Amgueddfa Cymru Glynn Vivian Art Gallery Cyngor Abertawe

27/08/2024

Byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd am gofrestru a chyrraedd at ein myfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd, felly cofia wirio dy e-byst i wneud yn siŵr dy fod yn barod. 💻

26/08/2024

Dymunwn ddiwrnod hapus iawn i bawb sy'n dathlu Krishna Janmashtami!

Heddiw mae'n dathlu pen-blwydd duw Hindŵaidd annwyl, sy'n enwog am ei dosturi a'i ddoethineb yn y Bhagavad Gita.

24/08/2024

Yn cyflwyno'r A-Y ar gyfer Cyrraedd!

P'un a wyt ti'n fyfyriwr newydd neu'n fyfyriwr sy'n dychwelyd, rydym wedi creu'r canllaw hwn i'th helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Abertawe.

O llety a chasglu allweddi i'r Undeb y Myfyrwyr a chyfleoedd gwirfoddoli, rydyn ni gyda gwybodaeth defnyddiol i chi bob cam o'r ffordd.

Bydd yn barod i wneud y gorau o’th brofiad yn Abertawe!

Edrycha ar hwn: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/cyrraedd/a-y/

Want your university to be the top-listed University in Swansea?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Videos (show all)

Shwmae Besties! Mae Brat Summer drosodd ac mae ein tîm Diogelwch ac Ymateb y Campws yma i’ch dangos o gwmpas...
Bydd Molly y tu Allan I dŷ Fulton amser cinio bob dydd Iau rhwng 12pm ac 1pm!🦮
'Ask Us' video
Krishna Janmashtami
Green flag award
Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr hynny sy'n ymuno â ni yn Abertawe! Rydym yn gyffrous i'ch croesawu chi gyd i'ch blwyddyn a...
Graduation video

Address


Llyfrgell Campws Parc Singleton A Chanolfan Wybodaeth Y Tŵr Campws Y Bae, Prifysgol Abertawe
Swansea
SA28PP

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm
Other Colleges & Universities in Swansea (show all)
Swansea University Student Midwife Society Swansea University Student Midwife Society
Swansea

The new page for Swansea University Midwifery Society for 2023-23

Swansea University - School of Social Sciences Swansea University - School of Social Sciences
Swansea University, Singleton Campus
Swansea, SA28PP

Welcome to the School of Social Sciences at Swansea University! Follow us for our latest news.

Swansea University Heavy Metal Society Swansea University Heavy Metal Society
Swansea

We have moved to this group, please see latest post https://www.facebook.com/groups/542867510965600/

Congam Study Congam Study
Swansea

CONGAM is the first UK-based feasibility trial of Contingency Management for Gambling Disorder. Coor

Engineering at UWTSD Engineering at UWTSD
Heol Ynys, Kings Road
Swansea, SA18EW

Engineering at UWTSD covers a range of full and part time Higher Education courses including Higher

Swansea economics Swansea economics
Swansea

Welcome to the Swansea university economics society page. Here we’ll post about upcoming activities and events. See about becoming a member in our linktree

IELTS band 7+ IELTS band 7+
Oxford Street
Swansea, 02777

We are an examination governing body helping candidates to obtain their desired ielts examination score band. We provide certificate for immigration, studies as working certificate

Sketty Hall Business School Sketty Hall Business School
Sketty Lane, Sketty
Swansea, SA28QF

| Ysgol Fusnes Plas Sgeti

Carys Jones - For Education Officer / Am Swyddog Addysg Carys Jones - For Education Officer / Am Swyddog Addysg
Swansea

2021/22 SU elections Education Officer Candidate ✨👩🏻‍🦰 Ymgeisydd Swyddog Addysg yn yr 2021/22 etholiadau’r UM ✨👩🏻‍🦰

STEM Degrees at UWTSD Swansea STEM Degrees at UWTSD Swansea
SA1 Swansea Waterfront Campus
Swansea, SA18EW

Welcome to UWTSD Swansea STEM site where we showcase our Undergraduate and Postgraduate degree courses in Architecture, Computing, Engineering, Construction and Environmental Conse...

Prifysgol Abertawe - Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe - Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
Swansea University, Singleton Park Campus
Swansea, SA28PP

Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu yn Prifysgol Abertwe. Ymunwch â'n cymuned a chael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ar lefel ysgol. Saesneg: @SUCultureandComm

Awen Institute Awen Institute
Swansea

Part-funded by the European Regional Development Fund. Ageing better and designing for life.