Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun

Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun

Completed in 1310, Chirk is the last Welsh castle from the reign of Edward I that's still lived in today.

Castell, gardd ac ystâd o’r oesoedd canol yn Wrecsam, dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
*
A medieval castle, gardens and estate cared for by the National Trust Wales. Features from its 700 years include the medieval tower and dungeon, 17th-century Long Gallery, grand 18th-century state apartments, servants' hall and historic laundry. The award-winning gardens contain clipped yews, her

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 23/07/2024

Haf o Hwyl yng Nghastell y Waun | Summer of play at Chirk Castle

***

Roedd ein penwythnos cyntaf yn llwyddiant ysgubol. Ymunodd marchogion ifanc o bob cwr â’r her eithaf yng ngwersyll hyfforddiant canoloesol Castell y Waun.

Y gwyliau haf hwn, dewch â’ch rhyfelwyr bach i brofi anturiaethau epig. Gwisgwch eich gwisg marchog orau ac ymgollwch mewn gweithgareddau hwyliog. Adeiladwch eich castell eich hun, dewch o hyd i’ch ffordd drwy ein cwrs rhwystrau gwellt a dringwch, cydbwyswch a gwibiwch drwy heriau cyffrous.

Hwyl gwyliau haf perffaith i’r teulu cyfan! Dewch i greu atgofion a fydd yn para am oes.

Mae manylion ynghylch sut i ymweld â ni ar gael yma: https://bit.ly/3xWGIFP

***

Our first weekend was a triumph. Young knights from all around joined the ultimate challenge at Chirk Castle’s medieval training camp.

This summer holiday, bring your little warriors to experience epic adventures. Dress up in your best knightly attire and dive into fun activities. Construct your own castle, navigate our straw obstacle course, and climb, balance, and weave your way through thrilling challenges.

It’s the perfect summer holiday fun for the whole family. Come and make memories that will last a lifetime.

Details of how to visit can be found here: https://bit.ly/3xWGIFP

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 21/07/2024

Diwrnod Cenedlaethol Hufen Iâ Hapus! | Happy National Ice Cream Day!

***

Dathlwch gyda ni yn ein siop gynnyrch llaeth bachu a mynd sydd newydd agor yn Home Farm. Rhowch wledd i’ch hun gyda’n gelato artisan, gan gynnwys ein blas bara brith Cymreig poblogaidd a llawer mwy o flasau bendigedig.

Bydd ein siop cynnyrch llaeth ar agor o 10am i 5pm drwy gydol yr haf – perffaith ar gyfer marchogion canoloesol sydd wedi cymryd rhan yn ein gwersyll hyfforddiant Haf o Hwyl! Peidiwch â cholli’r wledd flasus hon.

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

***

Celebrate with us at our newly opened grab and go dairy at Home Farm. Indulge in our artisan gelato, including fan-favourite Welsh bara brith and many more delicious flavours.

Our dairy will be open from 10am to 5pm all summer long- perfect for medieval knights who have taken part in our Summer of Play training camp! Don’t miss out on this tasty treat.

Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

20/07/2024

Trafod neidr y gwair | Grass snake talk

***

Oeddech chi’n gwybod y gellir dod o hyd i nadroedd y gwair ar ystâd Castell y Waun? Ymunwch â thîm ein ceidwaid i ddysgu mwy mewn sgwrs gyffrous ynglŷn â’r ymlusgiaid diddorol hyn. Darganfyddwch ffeithiau difyr, fel mai nadroedd y gwair, sy’n ddiberygl i fodau dynol, yw’r unig nadroedd yn y DU sy’n dodwy wyau. Yn ogystal, gallwch greu eich neidr eich hun o leiniau i fynd adref gyda chi.

Yn ogystal, cewch glywed am sut y bu i’n ceidwad, Carly, ynghyd â gwirfoddolwyr, wneud nythod yn ddiweddar ar gyfer y neidr lwyd yn y ddaear drwy ddefnyddio deunydd compost o’r dolydd. Mae’r nythd hyn yn gynnes sy’n galluogi’r nadroedd I ddodwy eu hwyau.

Edrychwch ar y wefan i weld y manylion. https://bit.ly/3Liwl29

***

Did you know that grass snakes can be found on the Chirk Castle estate? Join our ranger team to learn more with an exciting talk about these fascinating reptiles. Discover interesting facts, such as how grass snakes, which are harmless to humans, are the UK's only egg-laying snakes. Plus, you can create your own elder bead snake to take home.

Additionally, hear about how our ranger Carly, along with volunteers, has recently been making nests for grass snakes in the grounds using composting material from the meadow. These nests provide the heat that allows the snakes to lay their eggs.

See website for details. https://bit.ly/3Liwl29

19/07/2024

Taliadau Cerdyn | Card Payments

***

Oherwydd effaith y broblem TG fyd-eang ar Verifone, ein cyflenwr taliadau cerdyn, ni allwn dderbyn taliadau â cherdyn ar hyn o bryd. Mae hyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar ein gweithrediadau, felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Gallwn barhau i dderbyn a***n parod a phrosesu cardiau aelodau.

***

Due to the worldwide IT outage affecting our card payment supplier Verifone, we can't take card payments. This is likely to have a major impact on our operations so please bear with us. We can still accept cash payments and process members' cards.

18/07/2024

Profwch Ffensio yng Nghastell y Waun | Experience Fencing at Chirk Castle

***

Ddydd Sadwrn yma, peidiwch â cholli’r sesiynau ffensio cyffrous yng Nghastell y Waun. Gwyliwch arddangosiadau gan aelodau medrus Clwb Ffensio Wrecsam, ac yna rhwoch gynnig ar ffensio yn ein gweithgaredd cyfeillgar i’r teulu.
Bydd cymysgedd o arddangosiadau a sesiynau rhoi cynnig arni am ddim yn yr iard, gyda sesiynau’n cael eu cynnal o 11am tan 3pm.

Cofiwch grwydro ein caer ganoloesol a’n gerddi tra eich bod yma.

Trefnwch eich ymweliad ar ein gwefan. https://bit.ly/3zJFUEF

***

This Saturday, don't miss the exciting fencing sessions at Chirk Castle. Watch demonstrations from the skilled members of the Wrexham Fencing Club, and then try your hand at fencing in our family-friendly activity.

There will be a mixture of demonstrations and have-a-go sessions for free in the courtyard, with sessions running from 11am to 3pm.

Don’t forget to explore our medieval fortress and gardens while you're here.

Plan your visit on our website. https://bit.ly/3zJFUEF

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 16/07/2024

Haf o hwyl yn dechrau | Summer of play begins

***
Rhowch sglein ar eich arfwisg a bachwch eich ta***nau! Ddydd Sadwrn yma, 20 Gorffennaf, mae gwersyll hyfforddiant marchogion canoloesol Castell y Waun yn dechrau. Gwisgwch fel milwr ac adeiladwch eich castell eich hun cyn ymlwybro drwy rwystrau wedi’u creu o wellt yn y cae chwarae. Hwyl i bob oedran, gan gynnwys drysfa fach i’w harchwilio.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ymweld â’r castell canoloesol 700 mlwydd oed, a'i erddi trawiadol. Ar ddyddiadau penodol, mwynhewch sesiynau saethyddiaeth a ffensio dan arweiniad.

Dechreuwch gynllunio eich diwrnodau allan i’r teulu nawr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan. https://bit.ly/3xWGIFP

***

Polish your armour and grab your shields! This Saturday, July 20, Chirk Castle’s medieval knights training camp begins. Dress like a warrior and build your own castle before navigating through straw obstacles in the field of play. Fun for all ages, including a mini maze to explore.

Don’t miss the chance to visit the 700-year-old medieval castle and its stunning gardens. On select dates, enjoy led archery and fencing sessions.

Start planning your summer family days out now. Find out more information on our website. https://bit.ly/3xWGIFP

Noddir Haf o Chwarae gan Starling Bank | Summer of Play is sponsored by Starling Bank.

Photos from National Trust Cymru's post 16/07/2024
Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 14/07/2024

Gardd gegin hanesyddol | Historic kitchen garden

***

Yn dyddio’n ôl i 1653, mae ein gerddi yn rhan fyw o hanes, yn llawn o nodweddion cyfareddol o ganrifoedd y gorffennol. Wedi’i lleoli yn y cwrt sboncen ger Home Farm, fe welwch ein gardd gegin hyfryd, ynghyd â pherllan fach a phlotiau llysiau tymhorol. Mae ein tîm ymroddedig o arddwyr yn gofalu am y man hwn, gan sicrhau ei fod yn ffynnu drwy gydol y flwyddyn, a gwarchod ei naws hanesyddol i ymwelwyr ei mwynhau.

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

***

Dating back to 1653, our gardens are a living piece of history, filled with charming features from centuries past. Located behind the squash court near Home Farm, you'll find our delightful kitchen garden, complete with a small orchard and seasonal vegetable plots. Our dedicated team of gardeners tend to this space, ensuring it thrives year-round, preserving its historical essence for visitors to enjoy.

Plan your visit here: https://bit.ly/460Ux2o

12/07/2024

Bwydlen yr haf | Summer menu

***

Cyflwynir ein bwydlen haf newydd yn ystafell de yr Iard, yn llawn o ddanteithion blasus, perffaith ar gyfer y tymor. Mwynhewch ddiodydd iâ adfywiol, cwcis siocled melys, bara fflat cyw iâr sbeislyd, fflapjac haf hyfryd ac yn dychwelyd gan ei fod mor boblogaidd: pryd y gwerinwr gwych i’w rannu.

Hwn yw’r amser perffaith o’r flwyddyn i ymweld â Chastell y Waun, crwydro drwy ein gerddi bendigedig ac yna aros am ginio neu luniaeth mawr ei angen.

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

***

Our new summer menu is launching in the Courtyard tearoom, packed with delicious treats perfect for the season. Enjoy refreshing iced drinks, sweet chocolate cookies, flavourful spicy chicken flatbread, delightful summer flapjack and back by popular demand: the fabulous ploughman’s sharer.

It's the perfect time of year to visit Chirk Castle, stroll through our beautiful gardens and then stop for lunch or a much needed refreshment.

Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

09/07/2024

Teithiau cerdded gwylio ystlumod dan arweiniad ceidwad | Ranger-led bat walks
****
Fe’ch gwahoddir gan ein tîm ceidwaid ar daith gerdded dywysedig lle byddwch yn darganfod popeth am ein poblogaeth breswyl o ystlumod – o’u cynefinoedd a’u hoff fwydydd i’r heriau cadwraeth sy’n eu hwynebu.

Gydag offer synwyryddion ystlumod, byddwn yn ymlwybro drwy’r ardd, gan amlygu’r llefydd gorau i wylio’r creaduriaid anhygoel hyn.

Lleoedd ar gael ar 11 a 17 Gorffennaf. Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/4byV0ub

****
Our ranger team invites you to a guided walk where you'll discover everything about our resident bat population - from their habitats and favourite foods to the conservation challenges they face.

Equipped with bat detectors, we'll journey through the gardens, uncovering the best spots to observe these fascinating creatures.

Spaces available on 11 and 17 July. Plan your visit here: https://bit.ly/4byV0ub

05/07/2024

Haf o chwarae | A summer of play
****
Ymunwch â ni am haf yn llawn hwyl yma yng Nghastell y Waun.

O 20 Gorffennaf, beth am wynebu’r her eithaf yn y gwersyll hyfforddi hunanarweiniad i farchogion canoloesol. Cewch ddringo, balansio a gwau trwy rwystrau gwellt, yn ogystal â mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn y cae chwarae.

Hwyl i bawb o bob oed. Fe fydd yna lu o bethau i’w harchwilio a’u darganfod – yn cynnwys ystafelloedd swyddogol y castell canoloesol, y dwnsiynau a’r ardd sy’n gyforiog o liwiau’r haf. https://bit.ly/4etkLhU
****
Join us for a summer packed full of fun here at Chirk Castle.

From 20 July, take on the ultimate challenge in the self-led medieval knights' training camp. Climb, balance and weave through straw obstacles and enjoy a range of activities in the field of play.

Fun for all ages, there will be plenty to explore and discover - including the medieval castle's state rooms, the dungeons and the garden bursting with summer colour. https://bit.ly/3rkLWH

Noddir Haf o Chwarae gan Starling Bank | Summer of Play is sponsored by Starling Bank.

03/07/2024

Dolydd Godidog | Magnificent Meadows🌼
*****
Ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, byddwn yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd yma yn y Waun. Ymunwch â’n tîm ceidwaid yng nghanol harddwch ein dolydd a’n blodau gwyllt ar gyfer gweithgaredd am ddim i blant ac oedolion sy’n gofalu amdanynt am 11am, 12pm a 2pm. Rhowch gynnig ar adnabod blodau’r ddôl a chreu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan y ddôl gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a dyrennir y lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin, o’r Swyddfa Docynnau wrth gyrraedd.
Ar adegau penodol, gallwch hefyd ddysgu mwy am sut y gwnaethom greu’r dolydd ac am y bywyd gwyllt sy’n eu mwynhau erbyn hyn, ar ein teithiau tywys 20 munud o hyd.
Manylion yma: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/chirk-castle/events
*****
On Saturday 6 July, we will be celebrating National Meadows Day here at Chirk. Join our ranger team amongst our beautiful meadows and wildflowers for a free activity for children and accompanying adults at 11am, 12pm and 2pm. Have a go at meadow flower identification and create meadow-inspired artwork using natural materials. Spaces are limited and allocated on a first come, first service basis from the Ticket Office on arrival.
At selected times, you can also discover more about how we created the meadows and the wildlife that now enjoy them with our 20-minute guided walks.
Details here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/chirk-castle/events
📷National Trust/Carly Musk

28/06/2024
28/06/2024

Ddiwrnod Cenedlaethol y Te Hufen | National Cream Tea Day
****
Mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol y Te Hufen, yr esgus perffaith i sglaffio sgonsen ffres, flasus.

Dewch draw i un o’n bwytai yma yn Castell Y Waun. Y cwestiwn mawr ydy: ai hufen ynteu’r jam sydd gyntaf?

Mae pob rhodd a phryniant a wneir yn ystod eich ymweliad yn ein helpu ni i ofalu am natur, harddwch a hanes y lle arbennig hwn. Cynlluniwch eich ymweliad yma: bit.ly/42iOenq

****
It’s National Cream Tea Day which is the perfect excuse to eat a delicious fresh scone.

You can enjoy one in our tearoom here at Chirk Castle - but the question is will you put the cream or jam on first?

Every donation and purchase made during your visit helps us to care for the nature, beauty and history of this special place. Plan your visit here: bit.ly/43i6K0v

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 24/06/2024

Lliwiau’r haf yn eich croesawu i Gastell y Waun | Summer colour awaits at Chirk Castle
****
Camwch allan ac ymgollwch yn arogleuon ysgafn yr haf wrth ddod ar antur drwy arddangosfa dymhorol drawiadol Castell y Waun a’r Ardd.

Edmygwch y rhosod peraroglus sy’n byrlymu o’r Ardd Rosod ac yn dringo i fyny waliau’r castell, crwydrwch ar hyd llwybrau’r ardd, wedi’u hamgylchynu â borderi cyfoethog sy’n fwrlwm o liw, a mwynhewch olygfeydd dramatig ar draws y cefn gwlad sy’n eu hamgylchynu.

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

****
Step outdoors and breathe in the delicate scents of summer as you explore Chirk Castle and Garden's stunning seasonal display.

Admire fragrant roses spilling from the Rose Garden and climbing up the castle walls, meander along garden paths lined with richly planted borders that are bursting with colour, and enjoy dramatic views across the surrounding countryside.

Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

📷National Trust/Megan Wilkes

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 22/06/2024

Pride Hapus | Happy Pride 🏳️‍🌈
****
Rydym yn dathlu’r cyfraniad enfawr mae staff, gwirfoddolwyr, a chefnogwyr yn ei wneud gydag enfys o liw o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt.

Fel elusen, ein prif ddiben yw gwneud natur, harddwch a hanes yn hygyrch i bawb, ac felly rydym yn dathlu cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb gyda’r gymuned
LHDTQ+.
****
We're celebrating the enormous contribution that LGBTQ+ staff, volunteers and supporters make to the work we do with a rainbow of colour from the garden we care for.

As a charity whose purpose is to make nature, beauty, and history accessible for everyone, we celebrate inclusion, diversity, and equality with the LGBTQ+ community.

19/06/2024

Dewch i wynebu’r Her Milwr Eithaf yr Haf hwn | Take on the Ultimate Warrior’s Challenge this Summer
****
O 20 Gorffennaf, rhowch sglein ar eich arfwisg a bachwch eich ta***nnau wrth fynd ati i ddringo, cydbwyso a chanfod eich ffordd drwy rwystrau gwellt, a chwblhau heriau marchogion bach yn y cae chwarae. Yn llawn hwyl i bob oed, bydd saethyddiaeth a chleddyfaeth hefyd ar gael ar ddyddiau penodol. Dechreuwch gynllunio eich anturiaethau’r haf nawr: https://bit.ly/3VNfkmD
Noddir Haf o Hwyl gan Starling Bank.
****
From 20 July onwards, polish your armour and grab your shields as you climb, balance and weave your way through straw obstacles and complete mini knight’s challenges in the field of play. Fun for all ages, there will also be archery and fencing on selected dates. Start planning your summer adventures now: https://bit.ly/3rkLWHI
Summer of Play is sponsored by

📷©Ymddiriedolaeth Genedlaethol | National Trust Images /Trevor Ray Hart

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 17/06/2024

Haf yn y Siop Anrhegion | Summer in the gift shop
****
Mae'r siop anrhegion yma yng Nghastell y Waun yn llawn gwahanol eitemau i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr haf.

O sgarffiau ysgafn a bagiau hardd i lyfrau garddio ac ategolion, mae rhywbeth at ddant pawb.

Cofiwch alw heibio i gael sbec ar eich ymweliad nesaf. Mae pob rhodd a phryniant a wneir yn ystod eich ymweliad yn ein helpu ni i ofalu am natur, harddwch a hanes y lle arbennig hwn. Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq
****
The gift shop here at Chirk Castle is blooming with different items to help you step into summer.

From lightweight scarves and beautiful bags to gardening books and accessories, there’s something for everyone.

Be sure to pop in and have a look on your next visit. Every donation and purchase made during your visit helps us to care for the nature, beauty and history of this special place. Plan your visit here: https://bit.ly/49QxY1d

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 14/06/2024

Trysorau Cudd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | Hidden Treasures of the National Trust
****
Peidiwch â cholli Castell y Waun yng nghyfres 2 Hidden Treasures of the National Trust nos Wener, 14 Mehefin, ar BBC Two.

Bydd y rhaglen yn datgelu straeon hen a newydd a fydd yn ennyn chwilfrydedd am waith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i warchod gwrthrychau ac eiddo anhygoel, a’r staff a’r gwirfoddolwyr brwdfrydig sy’n gofalu amdanynt.

Bydd Castell y Waun i’w weld ym mhennod 6, a fydd yn canolbwyntio ar warchodaeth y portread prin maint llawn o’r gwas o’r 18fed ganrif, John Wilton, gan ddatgelu cliwiau rhyfeddol am ei gefndir. Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq
****
Don’t miss Chirk Castle in series 2 of Hidden Treasures of the National Trust this Friday, 14 June, on BBC Two.

The programme will reveal new and compelling stories about the work of the National Trust to conserve incredible objects and properties and the passionate staff and volunteers who care for them.

Chirk Castle will feature in episode 6 and will focus on the conservation of the rare full length portrait of 18th century servant John Wilton, to reveal remarkable clues about his background. Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

13/06/2024

Teithiau Tywys i Weld Ystlumod | Guided Bat walks
****
Yn anffodus, oherwydd tywydd gwael, mae’r Daith Ystlumod a drefnwyd ar gyfer heno (nos Iau 13 Mehefin) wedi’i chanslo. Byddwn yn cysylltu â’r rhai sydd wedi prynu tocynnau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
****
Unfortunately, due to poor weather conditions, the Bat Walk scheduled for this evening (Thursday 13 June) has had to be cancelled. Ticketholders will be contacted. We apologise for any inconvenience.

National Trust Images / Chris Damant

06/06/2024

Diolch i'n gwirfoddolwyr | Thank you to our volunteers
****
Yr Wythnos Wirfoddolwyr hon, hoffem ddiolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sy'n ein helpu i ofalu am Gastell y Waun.

O groesawu ymwelwyr, gweithio gyda'n timau garddio, cynorthwyo gyda gwaith cadwraeth a helpu i gynnal digwyddiadau, rydym yn gwerthfawrogi'r amser y maent yn ei roi a phopeth y maent yn ei wneud.

Os hoffech ymuno â ni, rydym ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu yn y castell ac i gynorthwyo ein tîm manwerthu, yn enwedig ar benwythnosau. E-bostiwch [email protected].

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

****
This Volunteers' Week we’d like to say a massive thank you to all the volunteers who help us care for Chirk Castle.

From welcoming visitors, working with our gardening teams, assisting with conservation work and helping run events, we appreciate the time they give and everything they do.

If you would like to join us, we are currently looking for volunteers to help in the castle and to assist our retail team, particularly of a weekend. Please email [email protected].

Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

04/06/2024

Y Ddôl Heulwen 2024 | Sunshine Meadow 2024
****
Mae Hosbis Tŷ’r Eos wedi dechrau ei hymgyrch Dôl Heulwen flynyddol, gydag 800 o rosod mynydd pinc trawiadol i’w gweld yng Nghastell y Waun rhwng 1 a 30 Mehefin.

Gwahoddir pobl i ymroi eu rhosyn pinc bythol eu hunain, y gellir ei brynu o hosbis Wrecsam, yn gyfnewid am gyfraniad o £30 bit.ly/PeonyNHH. Gallai’r blodyn, wedi’i grefftio â llaw, fod yn deyrnged drawiadol i fywyd anwylyn, neu’n rhodd fendigedig i rywun rydych chi’n ei garu, sy’n werthfawr i chi bob dydd.

Dechreuodd ymgyrch y Ddôl Heulwen chwe blynedd yn ôl pan sefydlwyd blodau’r haul bythol yng Nghastell y Waun. Ers hynny, mae’r blodyn dethol wedi amrywio, gyda phabïau, clychau gleision, glas y gors ac eirlysiau wedi’u harddangos yn y castell neu yn Erddig gerllaw, gyda chaniatâd caredig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Pan ddaw’r arddangosfa i ben, bydd y rhosod mynydd ar gael i’w casglu o’r hosbis fel cofrodd dragwyddol.

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq

****
Nightingale House Hospice has launched its annual Sunshine Meadow campaign with 800 stunning pink peonies on display at Chirk Castle from 1 to 30 June.

People are invited to dedicate their own everlasting peony, which can be purchased from the Wrexham hospice, in return for a donation of £30 bit.ly/PeonyNHH. The handcrafted flower could be a touching tribute to the life of a loved one or a beautiful gift for someone loved and treasured every day.

The Sunshine Meadow campaign began six years ago when everlasting sunflowers were installed at Chirk Castle. Since then, the flower of choice has varied with poppies, bluebells, forget-me-nots and snowdrops displayed at the castle or nearby Erddig, with kind permission from National Trust Cymru.

Once the display ends, the peonies will be available to collect from the hospice as a lasting keepsake.

Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

Nightingale House Hospice

03/06/2024

Ymunwch â'r tîm | Join the team
****
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â’n tîm gwych.

Ydych chi'n gyfathrebwr rhagorol gyda dealltwriaeth dda o dechnegau marchnata a llygad am stori dda? Gallai’r rôl hon fod yn berffaith i chi.

Os ydych chi'n frwdfrydig am rannu straeon a chreu cynnwys gwych, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais ewch i: https://bit.ly/3Vm2ICX
****
We're looking for a Senior Marketing & Communications Officer to join our fantastic team.

Are you an excellent communicator with a good understanding of marketing techniques and an eye for a good story Then this role could be for you.

If you're enthusiastic about sharing stories and creating great content we’d love to hear from you.

To find out more and apply, head to: https://bit.ly/3Vm2ICX

29/05/2024

Teithiau Tywys i Weld Ystlumod | Guided Bat walks
****
Mae Castell y Waun yn gartref i sawl rhywogaeth o ystlumod, a’r mwyaf nodedig ohonynt yw’r rhywogaeth brin, Rhinolophus hipposideros.

Mae coetiroedd yr ystâd, ac agosrwydd y safle i Afon Ceiriog, yn ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer fforio, tra bod to’r castell yn lleoliad pwysig ar gyfer clwydo yn ystod yr haf.

Gallwch ddysgu mwy amdanynt drwy ymuno ag un o’n teithiau tywys i weld ystlumod. Gan ddefnyddio datguddwyr, bydd ein ceidwaid yn eich arwain ar daith gerdded gyda’r nos, gan drosglwyddo eu gwybodaeth arbenigol a dewis y mannau gorau i weld yr ystlumod wrth iddynt ymddangos am y noson.

Archebwch eich lle ar-lein: https://bit.ly/3q1Ut1V

****
Chirk Castle is home to several species of bat, the most notable being the rare lesser horseshoe.

The estate, woodlands and proximity to the River Ceiriog make it the perfect habitat for foraging, while the castle roof spaces act as an important site for summer roosts.

You can learn more about them by joining one of our guided bat walks. Using detectors, our rangers will lead you on an evening walk, passing on their expert knowledge and picking the best spots to see the bats as they emerge for the night.

Book online: https://bit.ly/3q1Ut1V

📷 National Trust Images / Chris Damant

26/05/2024

Crefftau glöynnod byw | Butterfly craft
****
Yr hanner tymor Mai hwn, dysgwch fwy am y glöynnod byw hardd sy’n byw ar yr ystâd.

Edrychwch yn fanylach, yna dysgwch dechneg hapa zome i greu darn o grefft pili pala ar liain gan ddefnyddio blodau a dail fel deunyddiau argraffu naturiol.

Cynhelir sesiynau ar 28 a 29 Mai rhwng 11-11:30am a 2:30pm.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhoddir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin ar y diwrnod.

Bydd y storïwr Jake Evans yn dychwelyd i Gastell y Waun gydag amryw o straeon difyr i blant. Cynhelir y sesiynau ar 28 Mai am 12pm, 1pm, 2pm a 3pm. Bydd yr union leoliad yn y castell yn amrywio yn ddibynnol ar y tywydd ar y diwrnod – gwiriwch gyda’r swyddfa docynnau wedi i chi gyrraedd. Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol

Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/3q1Ut1V

****
This May half term, discover more about the beautiful butterflies living on the estate. Take a closer look and then learn how to hapa zome to create a piece of butterfly art on cloth using flowers and leaves as natural printing materials.

Sessions take place on 28 and 29 May from 11-11.30am and 2-2.30pm. This is a free event, but places are issued on a first come, first served basis on the day.

Storyteller Jake Evans will be returning to Chirk Castle with some captivating children’s stories. Sessions take place on 28 May at 12pm, 1pm, 2pm and 3pm. The location at the castle will vary depending on the weather on the day – please see ticket office on arrival. Normal admission prices apply.

Plan your visit here: https://bit.ly/3q1Ut1V

24/05/2024

Llyfrau plant | Children’s books
****
Mae’r siop lyfrau ail law, sydd wedi’i lleoli wrth y swyddfa docynnau, yn lle gwych i gael gafael ar lyfr am bris bargen neu i roi llyfrau nad ydych eu heisiau mwyach.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am lyfrau plant o ansawdd dda.

Mae pob rhodd a phryniant a wneir yn ystod eich ymweliad yn ein helpu ni i ofalu am natur, harddwch a hanes y lle arbennig hwn. Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/42iOenq
****
The second-hand bookshop located near the ticket office is a great place to pick up a bargain read or to donate your unwanted books.

We are currently looking for donations of good quality children’s books – great if you’re having a clear out over the half term.

Every donation and purchase made during your visit helps us to care for the nature, beauty and history of this special place. Plan your visit here: https://bit.ly/43i6K0v

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 21/05/2024

Hwyl i’r teulu yr hanner tymor hwn | Family fun this half term
****
Paratowch ar gyfer hanner tymor yn llawn hwyl yng Nghastell y Waun rhwng 25 Mai – 2 Mehefin.

Casglwch daflen sylwi o’r swyddfa docynnau a darganfyddwch fwy am fyd anhygoel glöynnod byw a gwenyn. Ar ôl hynny, ewch i’r Tŵr Adam canoloesol, ble gellir gweld arwyddion o orffennol hanesyddol y castell o hyd.

Ymunwch â cheidwad yn y Ddôl Ofalgar a dysgwch sut i greu glöyn byw ar liain gan ddefnyddio techneg hapa zome, yn defnyddio blodau a dail fel deunyddiau argraffu naturiol (28 a 29 Mai 11-11.30am neu 2-2.30pm).

Gwrandewch ar straeon difyr gan yr adroddwr straeon Jake Evans bob hyn a hyn rhwng 12-3pm ar 20 Mai. Cynlluniwch eich ymweliad yma: https://bit.ly/3q1Ut1V

****
Get ready for a half term packed full of fun at Chirk Castle from 25 May – 2 June.

Pick up a free spotter sheet from the ticket office and discover more about the incredible world of butterflies and bees. Afterwards, head to the medieval Adam Tower, where signs of the castle's historic past can be still seen.

Join a ranger in the Mindful Meadow and learn how to hapa zome to create a butterfly on cloth using flowers and leaves as natural printing materials (28 and 29 May 11-11.30am or 2-2.30pm).

Listen to captivating tales by storyteller Jake Evans on 28 May at intervals between 12-3pm. Plan your visit here: https://bit.ly/3q1Ut1V

Photos from Chirk Castle NT/YG Castell Y Waun's post 19/05/2024

Wisteria’n blodeuo | Wisteria in bloom
****

Nid yn yr ardd yn unig y byddwch yn gweld blodau anhygoel. Ewch i’r iard a byddwch yn gweld waliau’r castell yn frith o wisteria.

Mae’n creu rhaeadr o flodau lelog ysgafn sy’n creu arogl blodeuog cwbl anhygoel. Cymerwch eiliad i werthfawrogi ei harddwch ar eich ffordd i’r ystafelloedd ystad neu’r ystafell de ar eich ymweliad nesaf. https://bit.ly/42iOenq

****

It’s not just in the garden where you’ll find some amazing spring blooms. Head to the courtyard and you’ll see the wisteria now clothing the castle walls.

It produces cascades of delicate lilac flowers which create the most incredible floral scent. Take a moment to appreciate its beauty as you head to the staterooms or tearoom on your next visit. https://bit.ly/43i6K0v

10/01/2024

Mis Cerdded eich Ci | Walk your dog month
****
Oeddech chi’n gwybod mai mis Ionawr yw mis Cenedlaethol Cerdded eich Ci? Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn ar dennyn i’n hystâd 480 acer. Mae gennym bowlenni dŵr, biniau a llwybrau cyfeillgar i gŵn i’w mwynhau.

Ni chaniateir cŵn yn yr ardd ond caniateir iddynt fod yn ardal orlif ein hystafell de, sydd ar agor ar benwythnosau yn unig ar hyn o bryd ac yn gweini ystod o fwyd a diodydd hyfryd. Gweler y manylion ar ein gwefan https://bit.ly/48IvWzK

****
Did you know January is National Walk Your Dog month? We love welcoming dogs on leads to our 480-acre estate. We have water bowls, bins, and dog-friendly routes to enjoy.

Dogs are not permitted in the garden, but are allowed in the indoor overflow area of our tearoom, which is currently open at weekends only serving a range of delicious food and drinks. See website for details https://bit.ly/3RRveJN

📷 National Trust Images/Natalie Overthrow

Want your organisation to be the top-listed Non Profit Organisation in Wrexham?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Our Story

Built by Roger Mortimer in the late-13th-century, during the reign of King Edward I, Chirk is a magnificent medieval castle of the Welsh Marches.

Bought by Sir Thomas Myddelton in 1595, it was stylishly transformed into the Myddelton family home for over 400 years. Features include the medieval tower and dungeon, 17th-century Long Gallery, grand 18th-century state apartments, a fascinating and eclectic collection, servants' hall and historic laundry.

The award-winning gardens contain clipped yews, herbaceous borders, shrub and rock gardens. A terrace with stunning views looks out over the Cheshire and Shropshire plains.

The parkland is a Site of Special Scientific Interest (SSSI) and provides a habitat for rare invertebrates, wild flowers, grassland fungi and contains many mature and veteran trees, as well as some splendid wrought-iron gates, made in 1719 by the Davies brothers.

Website: http://www.nationaltrust.org.uk/chirk-castle
Twitter: https://twitter.com/ChirkCastleNT

Videos (show all)

Paratowch ar gyfer Haf o Hwyl yng Nghastell y Waun | Get Ready for a Summer of Play at Chirk Castle Mae ein tîm wedi bod...
Gardd yn ei blodau | A garden in bloom****Mae’r ardd yn fwrlwm o flagur newydd a lliwiau ffres wrth i’r gwanwyn ddod i b...
Uchafbwyntiau’r ardd yn y gwanwyn | Spring garden highlights****Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd yng ngerddi Castell y Waun. ...
Y Ddôl Ofalgar yng Nghastell y Waun | The Mindful Meadow at Chirk Castle ****Mae Dôl Ofalgar Castell y Waun yn fan lle c...
Teithiau cerdded yr hydref | Autumn Walks****Gyda’r dringwr fflamgoch yn dringo waliau’r castell, coed llawn dail melyn ...
Wythnos Rhandiroedd Cenedlaethol | National Allotments Week****Oeddech chi'n gwybod bod gennym ardd gegin yma yng Nghast...
Haf o Hwyl yng Nghastell y Waun | Chirk Castle Summer of Play
Lliwiau’r Haf yng Nghastell y Waun | Summer colour at Chirk Castle  **** Dewch i fwynhau golygfeydd yr haf yng Nghastell...
We're recruiting
Brrr! It's cold out there. If you're lighting a fire this Bonfire Night, "remember, remember" to first check it for hedg...

Telephone

Address

Chirk
Wrexham
LL145AF

Other Charity Organizations in Wrexham (show all)
Nightingales Buckley Nightingales Buckley
Chester Road
Wrexham, LL112SJ

Here at Nightingale House our charity shops are the lifeblood of the local community and the catalyst to successful fundraising. Our shops provide much-needed funds so that the ho...

WGSU Womens Officer WGSU Womens Officer
Glyndwr Wrexham University Students Union
Wrexham, LL112AW

Hey guys I'm India Kruse and I'm this years elected women's officer for Glyndwr University. I am a first year Social Work student and my years student Rep. I'm super excited to be ...

Santa's coming to Wrexham Santa's coming to Wrexham
Wrexham

Santa's coming to Wrexham. Once again we are visiting houses personal video calls and bringing smiles

Refugee Kindness Refugee Kindness
The Peace And Justice Centre, 35-37 Kingsmill Road
Wrexham, LL138NH

At Refugee Kindness, we aim to reach out to all refugees and all those wishing to help refugees to enable them to link up, offer friendship, assistance in integrating, provide clot...

Rhos Community Shop Rhos Community Shop
48 Market Street, Rhos
Wrexham, LL142HY

Our Community charity shop and She-shed support our projects and Foodbank. www.heavensway.org.uk

Poppy Appeal Morrisons Wrexham Poppy Appeal Morrisons Wrexham
Ruthin Road
Wrexham

Page for updates with the Poppy Appeal in Morrison’s Wrexham

Baby Basics Wrexham Baby Basics Wrexham
Caia Park Partnership, Blue Building
Wrexham, LL138TH

Baby Basics provides families in need with some of the essential items needed for life with a baby. We work with healthcare professionals and other agencies to ensure that the mo...

Andys Man Club Wrexham Andys Man Club Wrexham
Wrexham

Free-to-attend peer-to-peer support group for 18+. 7pm-9pm. Every Monday Night (except Bank Holidays)

Candy and Tibby Trust Candy and Tibby Trust
Wrexham

WREXHAM volunteer run rescue established 2019. One of a few rescues who specialise in rehoming stray, semi feral cats with TNR (trap, neuter, re-home) ✔️Cat food donations welcome...

Gwersyllt Barnardos Gwersyllt Barnardos
Dodds Lane Gwersyllt
Wrexham, LL114

Bargains to be had with new stock put out every day.

Vision Support Charity Vision Support Charity
11 Egerton Street
Wrexham, LL111ND

Rhostyllen Scarecrow Trail 2023 Rhostyllen Scarecrow Trail 2023
Rhostyllen
Wrexham, LL14

🎃🧡