GGDW Tim Gofal Plant

GGDW Tim Gofal Plant

Nearby government services

WFIS Childcare Team
WFIS Childcare Team
Rhosddu Road

Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from GGDW Tim Gofal Plant, Government Organization, Wrexham.

Mae’r Tim Gofal Plant yn gweithio’n agos gydag ymarferwyr gofal plant, rheolwyr, aelodau pwyllgor a pherchnogion i ddarparu gwybodaeth am ddim, cyngor, canllaw a chymorth ar draws y meysydd o gynnal eu darpariaeth gofal plant.

08/11/2024

Archwilio Darnau Rhydd

Y theori ar gyfer darnau rhydd - bydd y cwrs hwn yn edrych ar y theori o ddarnau rhydd a deall sut y gallan nhw wella cyfleoedd plant i chwarae. Byddwn yn edrych ar ystod o rannau rhydd, lle i ddod o hyd iddyn nhw a sut i asesu risg yn effeithiol wrth eu defnyddio a’u gweithredu nhw.

Dyddiad: Dydd Mercher 20 Tachwedd
Amser: 6:00pm - 8:00pm
Lleoliad: Canolfan Ragoriaeth Rhiwabon, Llwyn Stanley, Rhiwabon, Wrecsam, LL14 6AH Hyfforddwr: Tîm Chwarae CBSW
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Cost: £5.00

07/11/2024

Archwilio Darnau Rhydd
Archebwch eich lle nawr
Manylion y cwrs: Y theori ar gyfer darnau rhydd - bydd y cwrs hwn yn edrych ar y theori o ddarnau rhydd a deall sut y gallan nhw wella cyfleoedd plant i chwarae. Byddwn yn edrych ar ystod o rannau rhydd, lle i ddod o hyd iddyn nhw a sut i asesu risg yn effeithiol wrth eu defnyddio a’u gweithredu nhw.
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Tachwedd, 2024
Amser: 6pm - 8pm
Lleoliad: Canolfan Ragoriaeth Rhiwabon, Llwyn Stanley, Rhiwabon, Wrecsam, LL14 6AH
Hyfforddwr: Tîm Chwarae CBSW
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Cost: £5
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r [email protected]

06/11/2024

Cyflwyniad i’r Trefniadau Asesu

Nod y weminar hon yw galluogi ymarferwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ‘Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ’, gan ystyried y negeseuon a’r egwyddorion allweddol i gefnogi ymarferwyr nad ydynt yn cael eu ha***nnu, gyda chynllunio ar gyfer cynnydd plant.

Bydd y sesiwn yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth a hyder mewn perthynas â:
• Pwrpas asesu
• Rôl arsylwi i helpu i gynllunio ar gyfer dilyniant
• Pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth gynnal asesiadau
• Camau nesaf

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024
Amser: 6:30pm - 9:00pm
Lleoliad: Zoom / Teams Hyfforddwr: PACEY Cymru
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Cost: £5.00

05/11/2024

Noson Tân Gwyllt 🎇

04/11/2024

Digwyddiadau i ddod: Tachwedd y 5ed- Noson tân gwyllt 🎇

02/11/2024

Diogelwch ffyn gwreichion (sbarclers)

- Beth am roi ffyn gwreichionen eich plentyn mewn moronen i'w dal? Mae'n ddiogel ac yn hwyl!
- Peidiwch byth â'u rhoi i blant dan 5
- Taniwch nhw un ar tro a gwisqwch fenig
- Peidiwch byth â gafael mewn baban neu blentyn os oes gennyc sbarcler yn ei llaw
- Peidiwch byth â'u tanio mewn arddangosfeydd cyhoedducs, maent yn rhy brysur
- Ar ôl gorffen rhowch nhw mewn bwced o ddŵr neu dywod gan eu bod yn aros yn boeth am gyfnd hir iawn
- Dangoswch wrth blant sut i'w defnyddio'n ddiogel - ymhell o'r corff a hyd braich.

29/10/2024

Lefel 2 Mewn Arferion Gwaith Chwarae (Yr L2app)

- Mae'n eich cymhwyso i Lefel 2, i weithio mewn Clybiau Gwyliau.
- Brydd Dysgwyr sydd eisoes â Lefel 2 neu uwch mewn Gofal Plant, Addysg, Gwaith Leuenctid neu Ysgolion Coedwig yn gymwys ar gyfer darparaeth blwyddy gyfan.
- Wedi ei a***nnu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
- Cwrs hyfforddi hwyliog ac ymgysylltiol.
- Yn agored i unrhyw un dros 16 blwydd
- Oed nad yw mewn unrhyw hyfforddiant arall wedi ei a***nnu, ac sydd â'r hawl i fyw a gweithio yng Nghymru.
- Bydd angen ichi gyflawni 20 awr o Ymarfer Gwaith Chawarae.

Cofiwch Gysylltu am fwy o wybodaeth:
Mel Kearsley
[email protected]

25/10/2024

Brechu rhag y ffliw i blant

Helpwch ni i amddiffyn plant dwy a thair blwydd oed rhag salwch difrifol a achosir gan y ffliw yr hydref hwn.

Gofynnwn yn garedig i chi rannu gwybodaeth gywir a dibynadwy am y brechlyn ffliw gan y GIG gyda rhieni trwy ddefnyddio’r adnoddau hyn a’r testun a awgrymir ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, apiau, grwpiau Facebook, sianeli negeseuon a chylchlythyrau i rieni. Mae neges ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gwelwch yr adnoddau yma:
https://url.uk.m.mimecastprotect.com/s/hlTVCZZQ1fM58BwszfRFBDT74?domain=betsicadwaladr.padlet.org

Pam ei fod yn bwysig?

Gall y ffliw fod yn salwch annifyr iawn i blant. Gall arwain at broblemau difrifol, fel broncitis a niwmonia. Mae dal y ffliw hefyd yn cynyddu risg eich plentyn o heintiau eilaidd, yn cynnwys cyflyrau megis Strep A.

Mae plant dwy a thair mlwydd oed yn un o’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn ffliw blynyddol. Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael brechlyn chwistrell di-boen yn eu meddygfa.

Gall plant bach ddal a lledaenu'r ffliw yn hawdd iawn. Mae brechu plant ifanc yn helpu i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl gyda heintiau ffliw difrifol - ac yn helpu i amddiffyn plant eraill mewn meithrinfeydd a lleoliadau gofal plant, staff gofal plant, aelodau o'r teulu ac aelodau mwy agored i niwed o'r gymuned rhag y ffliw.

Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen brechu rhag y ffliw ar gael ar ein gwefan

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth

Betsi Cadwaladr

Photos from GGDW Tim Gofal Plant's post 16/10/2024

Bydd Wythnos Ailgylchu 2024

Beth am fynd ar Helfa Ailgylchu a defnyddio’r hyn rydych yn ei ddarganfod i wneud crefft, modelu neu wneud offeryn cerddorol hyd yn oed!

https://www.recyclenow.com/news-and-campaigns/recycle-week?gad_source=1&gclid=CjwKCAjw9p24BhB_EiwA8ID5BuC0ToDZ7jcrMOYu--nMvQGMfY4rbZoL_w2OniGIIP0XQ0yb5rg-hhoCGg8QAvD_BwE

https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle

Photos from GGDW Tim Gofal Plant's post 15/10/2024

Diwrnod Shwmai Sumae – Diwrnod a fydd wedi’i neilltuo ar gyfer hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg a’i gwerthfawrogi.

14/10/2024

Wythnos Genedlaethol Pobi

Beth am roi cynnig ar bobi ryseitiau Cymreig traddodiadol:
Cegin S4C | S4C Bara Brith https://www.s4c.cymru/cy/cegin-s4c/post/49720/bara-brith/

Cegin S4C | S4C Pice ar y maen / Cacennau cri https://www.s4c.cymru/cy/cegin-s4c/post/49724/pice-ar-y-maen/

04/10/2024

Hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheoli

Dyddiad: dydd Iau 10 Hydref a dydd Iau 17 Hydref, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:30pm - 8:30pm
Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Ail Rodfa, Gwersyllt, LL11 4ED
Hyfforddwr: CBSW
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Cost: £5

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n ymwneud â goruchwylio a gwerthuso staff e.e. rheolwyr, dirprwy reolwyr, goruchwylwyr ac aelodau eraill o uwch staff.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi am:
- Nodweddion goruchwylio a gwerthuso effeithiol
- Pwysigrwydd goruchwylio a gwerthuso effeithiol
- Rheoli materion perfformiad
- Manteision i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
- Deddfwriaeth berthnasol
- Sgiliau rheoli allweddol

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r [email protected].

02/10/2024

Gwybodaeth am Addysg Gynnar i Rieni

Dyma’r dolenni i fideos gwybodaeth i rieni sy’n egluro beth yw Addysg Gynnar a Ariennir a sut gallan nhw wneud cais.
Gwybodaeth i Rieni - https://www.youtube.com/watch?v=_aWkPmjgrI4

Dyma’r dolenni i fideos gwybodaeth i rieni am y Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir.

Gwybodaeth am y Cwricwlwm -https://www.youtube.com/watch?v=SQUSdP6HADE

Addysg Gynnar Wedi'i Ha***nnu Wrecsam - https://www.facebook.com/wrexhamfundedearlyeducation

30/09/2024

Ymddiriedolaeth y Plant

Beth am gynnal eich Diwrnod Pyjamas eich hunain!

Mae Ymddiriedolaeth y Plant yn gofyn i chi gynnal eich Diwrnod Pyjamas eich hunain ar 7-13 Hydref yn eich lleoliad. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru, a gallwch ddod yn eich hoff byjamas, eich gynau nos cysurus a’ch sliperi cŵl! Mae mor syml â hynny.

Nid dim ond ar gyfer dydd Sul diog mae Diwrnod Pyjamas, mae’n ffordd hawdd a llawn hwyl i chi gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael niwed i’r ymennydd a’u helpu i fyw’r bywyd gorau posibl. Rydych chi’n helpu Ymddiriedolaeth y Plant i ddarparu gofal meddygol, therapi, addysg, chwarae a chefnogaeth i helpu plant i fyw’r bywyd gorau posibl. Ymddiriedolaeth y Plant yw elusen flaenllaw’r DU i blant sydd wedi cael niwed i’r ymennydd ac sydd â niwroanabledd. Mae eich cyfraniadau yn helpu i a***nnu ein cyfleusterau a’n hoffer arbenigol, sy’n hanfodol ar gyfer adsefydlu ac ansawdd bywyd y plant.

Cliciwch yma i gofrestru i gael pecyn codi a***n: The Children’s Trust Pyjama Week | The Children's Trust (thechildrenstrust.org.uk)

20/09/2024

Sesiwn wybodaeth Camau - Wyt ti eisiau datblygu dy sgiliau Cymraeg?

Ymunwch â Phrif Swyddog Camau ar gyfer sesiwn fer i ddysgu mwy am Camau, y cynllun Cymraeg Gwaith pwrpasol sydd wedi’i a***nnu’n llawn ar gyfer Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd.

Mae cyrsiau Camau yn gyrsiau hunan-astudio gellir eu dilyn pryd bynnag sy’n gyfleus i’r dysgwr. Mae cyrsiau lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd ar gael a bydd staff yn dysgu patrymau Iaith, gramadeg, treigladau a geirfa sy’n berthnasol i fywyd yn y Cylch Meithrin neu Feithrinfa Ddydd.

Bydd cyfle i holi cwestiynau a derbyn gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyrsiau.

Dewiswch un o'r sesiynau canlynol:

Prynhawn
15.10.2024 Sesiwn Cymraeg 1-1:30pm
15.10.2024 Sesiwn Saesneg 1:30-2pm

15.10.2024 Sesiwn Cymraeg 6-6:30pm
15.10.2024 Sesiwn Saesneg 6:30-7pm

https://meithrin.cymru/digwyddiadau/

18/09/2024

Addysg Gynnar a Ariennir a’r Cynnig Gofal Plant
Fydd eich plentyn yn 3 oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2024?
Os felly, gallwch wneud cais am Addysg Gynnar a Ariennir rhwng 2 Medi a 25 Hydref 2024.
Bydd ceisiadau Cynnig Gofal Plant Cymru yn agor ar 23 Hydref 2024.

13/09/2024

Diwrnod Stori Roald Dahl!

Medi 13eg

Ymunwch â’r dathliad byd-eang o storïau Roald Dahl y mis Medi hwn yn ystod Diwrnod Stori Roald Dahl. Yn cael ei nodi ar gyfer Medi’r 13eg gallwch ddthlu eich hoff gymeriadau, storïau ac enydau gyda dilynwyr o bedwar ban byd. Ewch i hyb Diwrnod Roald Dahl i weld mwy o weithgareddau hwyliog, adnoddau a ffyrdd o ddathlu.

I wybod mwy: https://www.roalddahl.com/about/

06/08/2024

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2024

Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a gynhelir yng nghanol dinas Wrecsam, ddydd Mercher 7 Awst rhwng 12:00 a 4:00, ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf (cae Neuadd y Dref).

Gwahoddir pobl o bob oedran gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn a phobl ifanc, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, i ymuno yn y digwyddiad hwyliog rhad ac am ddim hwn. Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau megis pwll tywod enfawr a chwarae â sothach.

Want your organisation to be the top-listed Government Service in Wrexham?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address


Wrexham
LL111AU

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm
Other Government Organizations in Wrexham (show all)
Offa Community Council Offa Community Council
Luke O Connor Community Centre
Wrexham, LL137NH

Offa Community Council is an organisation set up by the Local Authority and run by local residents t

Rhosllannerchrugog Community Council Rhosllannerchrugog Community Council
Bryn Maelor, Peter Street, Rhos
Wrexham, LL141RG

Welcome to our page. Here you will find lots of information about Rhosllannerchrugog Community Council and what is happening in the local area.

Wrexham City Council Wrexham City Council
Wrexham

The 100% official page for the Wrexham City Council

Penycae Community Council Penycae Community Council
15 Maelor Avenue, Penycae
Wrexham, LL142DG

penycae community council consists of 14 members, representing the Eitha and Groes Wards.

Chirk FoodShare & Walk-in Wednesday Chirk FoodShare & Walk-in Wednesday
Chirk Parish Hall
Wrexham, LL145NA

A food waste initiative & community space ensuring no food goes to landfill. A warm welcome every Wed

Chirk Community Agent Chirk Community Agent
Chirk Parish Hall
Wrexham, LL145NA

A free service for the over 50's in Chirk, keeping people informed and encouraging individuals to participate in community events and activities to reduce social isolation and rais...

Wrexham Council Licensing / Trwyddedu Cyngor Wrecsam Wrexham Council Licensing / Trwyddedu Cyngor Wrecsam
Ruthin Road
Wrexham, LL137TU

The aim of the Licensing service is to improve the standards of public safety in respect of licensed

WCBC Housing WCBC Housing
Ruthin Road
Wrexham, LL137TU

The official page for Wrexham Council housing tenants Our Welsh page you can find at CBSW Tai https://linktr.ee/wrexhamcouncilhousing

Wrexham Trading Standards / Safonau Masnach Wrecsam Wrexham Trading Standards / Safonau Masnach Wrecsam
Wrexham, LL111

Welcome to Wrexham Trading Standards page Croeso i dudalen Facebook Safonau Masnach Wrecsa

WFIS Childcare Team WFIS Childcare Team
Rhosddu Road
Wrexham, LL111AU

The Childcare Team work closely with childcare practitioners, managers, committee members and owners